Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch ar y traeth a dŵr

Sglefrod môr a chreaduriaid môr eraill sy’n pigo

Nid yw’r rhan fwyaf o bigiadau gan greaduriaid môr y DU yn ddifrifol a gellir eu trin â chymorth cyntaf.

Beth i’w wneud os ydych chi wedi cael eich pigo

  • rinsiwch yr ardal yr effeithir arni â dŵr môr (nid dŵr ffres)
  • tynnu unrhyw bigau oddi ar y croen gan ddefnyddio pliciwr neu ymyl cerdyn banc
  • socian yr ardal mewn dŵr cynnes iawn (mor boeth ag y gellir ei oddef) am o leiaf 30 munud - defnyddiwch wlanenni poeth neu dywelion os na allwch ei socian
  • cymryd cyffuriau lleddfu poen fel paracetamol neu ibuprofen

Ond fe ddylech chi ymweld â’ch Uned Mân Anafiadau (MIU) os:

  • Oes gennych chi boen difrifol nad yw’n pylu
  • Eich bod wedi cael eich pigo ar eich wyneb neu eich organau cenhedlu
  • Eich bod wedi cael eich pigo gan forgath (stingray)

Canfod eich Uned Mân Anafiadau lleol.

Am ragor o wybodaeth am sglefrod môr a phigiadau gan greaduriaid y môr, ewch i wefan y GIG.

Cyngor ar ddiogelwch yn y dŵr

P’un a ydych chi’n mynd i’r traeth, am dro ar hyd yr arfordir neu’n mentro i’r dŵr, mae gan  ‘wefan RNLI gyngor ar ddiogelwch yn y dŵr i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel’.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau