Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd y gwair

Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu.

Fel arfer, mae clefyd y gwair ar ei waethaf o ddiwedd mis Mawrth i fis Medi, yn arbennig yn ystod tywydd cynnes, llaith a gwyntog pan fydd cyfrifiadau paill ar eu huchaf.

Symptomau o glefyd y gwair

Mae’r symptomau’n cynnwys:

  • Tisian a pheswch
  • Trwyn yn rhedeg neu’n teimlo’n llawn
  • Llygaid coslyd, coch neu ddyfrllyd  
  • Gwddf, ceg, trwyn a chlustiau coslyd
  • Diffyg arogl
  • Poen o amgylch eich arleisiau a’ch talcen
  • Cur pen
  • Pigyn yn y glust
  • Teimlo’n flinedig

Gall y rhai sy’n dioddef ag asthma ganfod bod eu symptomau'n gwaethygu wrth ddioddef o glefyd y gwair a gallant brofi brest dynn, diffyg anadl a pheswch.

Yn wahanol i annwyd, sydd fel arfer yn gwella ar ôl wythnos i ddwy, gall symptomau o glefyd y gwair bara am wythnosau neu fisoedd.

Gwiriwch y cyfrifiad paill

Cadwch lygad ar y lefelau paill yn eich ardal drwy ddefnyddio Rhagolygon y paill – gan y Swyddfa Dywydd.

Sut i drin clefyd y gwair eich hun

Mae ambell beth y gallwch ei wneud i leddfu symptomau o glefyd y gwair pan fydd y cyfrifiad paill yn uchel:

  • Rhowch jeli petroliwm, megis Vaseline o amgylch eich ffroenau er mwyn atal y paill
  • Gwisgwch sbectol haul drwchus, mwgwd neu het lydan i atal y paill rhag mynd i mewn i'ch llygaid
  • Ewch am gawod a newidiwch eich dillad ar ôl i chi fod y tu allan i olchi’r paill i ffwrdd  
  • Cadwch y ffenestri a’r drysau ar gau cymaint â phosibl
  • Rhowch yr hwfer ymlaen yn rheolaidd a glanhewch y llwch gyda chlwtyn tamp
  • Prynwch hidlydd paill ar gyfer fentiau aer yn eich car a hwfer gyda hidlydd HEPA arbennig

Ewch i’ch fferyllydd am gyngor

Os ydych yn dioddef â chlefyd y gwair gallwch gael cyngor iechyd gan eich fferyllydd. Mae clefyd y gwair yn un o’r cyflyrau sy’n dod o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sy'n galluogi fferyllwyr i gynnig cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer amrywiaeth o anhwylderau cyffredin heb orfod gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu. Dewch o hyd i’ch fferyllfa agosaf neu darganfyddwch ragor o wybodaeth am  wasanaethau fferyllfa yng Ngogledd Cymru. 

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol