Mae'r ffliw yn salwch anadlol sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Mae cael y ffliw yn llawer iawn gwaeth na chael annwyd ac mae’n gallu arwain at ganlyniadau iechyd mwy difrifol ar gyfer grwpiau penodol o bobl. Y ffordd orau i amddiffyn eich hun rhag y ffliw yw cael y brechlyn ffliw blynyddol. Mae’r brechlyn hefyd yn gallu lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch yn cael y ffliw.