Mae’n bwysig eich bod yn ddiweddar gyda’ch holl frechiadau cyn i chi ddechrau yn y brifysgol gan y byddwch yn cyfarfod, cymysgu ac yn byw gyda llawer iawn o bobl newydd. Gall prifysgolion fod yn fannau problemus o ran y frech goch, clwy'r pennau a chlefyd meningococaidd yn ogystal â COVID-19 gan eu bod yn gyfle perffaith i heintiau ledaenu.
Rhestr wirio brechu ar gyfer myfyrwyr
Cyn gadael am y brifysgol
- Dau ddos o'r brechlyn MMR
- Un dos o MenACWY (hyd at ben-blwydd yn 25 oed)
- Dau ddos o'r brechlyn COVID-19 (16 ac 17 oed dos cyntaf gyda'r ail yn yr arfaeth)
- Dau ddos o'r brechlyn HPV* (ar gyfer myfyrwyr benywaidd hyd at 25 oed, gall myfyrwyr gwrywaidd sy'n MSM gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed mewn clinigau STD)
- Gwybod arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia
- Gwybod sut i geisio cyngor meddygol
Pan fyddwch yn cyrraedd y brifysgol dylech
- Cofrestru gyda meddyg teulu cyn gynted ag y gallwch – peidiwch ag aros nes bod gennych broblem
- Trefnu gyda’ch meddyg teulu i ddal i fyny ar unrhyw frechlynnau rydych wedi'u colli (gellir rhoi brechlyn COVID-19 mewn canolfannau galw i mewn)
I gael gwybod a ydych wedi cael eich brechiadau diweddaraf, cysylltwch â'ch meddygfa. Mae mwy o wybodaeth ynghylch Brechiadau Myfyrwyr ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.