Hyfforddiant Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Fedra I
Rydym nawr yn gallu cynnig ein Hyfforddiant Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Fedra I. Mae’r hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu ac mae’n cael ei ardystio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda chymorth Therapyddion Galwedigaethol a Seiciatryddion. Mae’r hyfforddiant ar agor ac yn addas i unigolion sydd â diddordeb, sefydliadau yn ogystal â rheolwyr / staff mewn diwydiant.
Mae’r hyfforddiant yn rhoi trosolwg sylfaenol o gyflyrau all effeithio iechyd emosiynol a lles unigolyn. Bydd y sesiwn hyfforddiant 3 awr yn darparu:
Os ydych mewn diwydiant neu yn chwilio am hyfforddiant ar gyfer nifer fawr o staff o fewn eich sefydliad, cysylltwch â: meinirfelinfach@gmail.com
Os ydych yn unigolyn sydd â diddordeb mynychu hyfforddiant Fedra I, yna cysylltwch gyda’ch hwb Fedra I lleol agosaf i ddarganfod pryd fydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu o fewn eich ardal chi.
Mae EPP Cymru yn cynnig cyrsiau hunan ofal am ddim:
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddfa Hunan-ofal ar:
Ffôn: 03000 852280/852281
E-bost: eppcymru.bcuhb@wales.nhs.uk