Bydd bwyta deiet iach a chytbwys yn ystod beichiogrwydd yn eich helpu i gael y rhan fwyaf o’r fitaminau a’r mwynau sydd eu hangen arnoch ond dylai’r rhai sy’n cynllunio beichiogi cymryd atchwanegiad asid ffolig.
Mae pawb sy’n cynllunio beichiogi yn cael eu cynghori i gymryd atchawnegiad dyddiol o asid ffolig sy’n cynnwys 400 microgram. Bydd hyn yn helpu lleihau’r risg o’u babi yn datblygu problemau datblygiadol yn ystod dyddiau cynnar y beichiogrwydd.
Argymhellir cymryd atchwanegiad, yn ogystal â bwyta deiet sy’n llawn ffolad naturiol a bwydydd cyfnerthedig megis grawnfwydydd. Ffynhonnell dda o ffolad yw llysiau deiliog gwyrdd, ffa a chodlysiau, orenau a bwydydd grawn cyflawn.
Mae rhai yn cael eu cynghori gan eu bydwraig neu gan eu meddyg i gymryd dos dyddiol uwch o asid ffolig (5 miligram) er mwyn cefnogi beichiogrwydd iach; er enghraifft os oes ganddynt ddiabetes, clefyd coeliag, BMI uwch (Mynegai Màs y Corff), neu os ydynt yn cymryd meddyginiaeth gwrth-epilepsi.
Mae fitamin D yn gweithio gyda chalsiwm a ffosfforws yn y corff i adeiladu ac amddiffyn esgyrn, cyhyrau a dannedd iach. Mae cael digon o fitamin D yn helpu’r corff i amsugno’r holl galsiwm sydd ei angen arno ar gyfer iechyd esgyrn da.
Bwydydd sy’n darparu ffynhonnell dda o fitamin D yw pysgod olewog megis eog, sardinau a phennog Mair, wyau (melynwy), a rhai grawnfwydydd brecwast ac iogyrtiau cyfnerthedig; fodd bynnag, rydym yn cael y rhan fwyaf o’n fitamin D gan olau’r haul. Mae cael deiet iach a chytbwys yn hanfodol ar gyfer yr holl faetholion pwysig eraill sydd eu hangen ar ein corff, ond mae’n annhebygol o’n darparu ni gyda digon o fitamin D. Yn ystod misoedd yr hydref a misoedd y gaeaf, rydym yn galw ar storfeydd yn ein corff i gyflenwi fitamin D, ond yn aml nid yw’r rhain yn ddigon i gadw lefelau cyson, felly argymhellir cymryd atchwanegiad dyddiol o 10 microgram i bawb, oedolion a phlant, yr adeg hon o'r flwyddyn.
Efallai y bydd fitamin D yn cael ei labelu fel IU (unedau rhyngwladol) yn hytrach na microgramau. Nodwch: mae 400 IU yn gyfystyr â 10 microgramau.
Nid yw rhai atchwanegiadau fitamin D yn addas ar gyfer rhai sy’n dilyn deiet fegan felly gwiriwch y label a sicrhewch fod y rhain yn darparu’r un symiau dyddiol, neu debyg, i'r hyn a argymhellir uchod.
Dylai’r rhai sy’n feichiog, neu y gallai ddod yn feichiog, osgoi unrhyw atchwanegiad sy’n cynnwys fitamin A (retinol).
Gallwch gael atchwanegiadau o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd, neu efallai y bydd eich Meddyg Teulu yn gallu eu rhagnodi i chi.
Os ydych eisiau cael eich asid ffolig gan atchwanegiad lluosfitiminau, sicrhewch ei fod yn addas ar gyfer beichiogrwydd ac nid yw’n cynnwys fitamin A (retinol). Fodd bynnag, nid yw atchwanegiadau lluosfitiminau yn cael eu hargymell fel mater o drefn ar gyfer y rhai sy'n cynllunio beichiogi neu sy'n feichiog. Mae argymhellion iechyd cyhoeddus yn cynghori mai asid ffolig a fitamin D yw’r ddau bwysicaf i'w cymryd fel atchwanegiad ar hyn o bryd.
Mae’r Cynllun Cychwyn Iach yn cynnig fitaminau a chymorth am ddim i brynu bwyd a llaeth iach ar gyfer teuluoedd cymwys sy’n feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 blwydd oedd.