Neidio i'r prif gynnwy

Epilepsi a diogelwch babi

Gall deall eich epilepsi a gwybod beth sydd o bosib yn sbarduno trawiadau eich helpu i roi rhai mesurau diogelwch ar waith i leihau’r peryglon i chi a’ch babi. Rhai sbardunau cyffredin yw anghofio cymryd cyffuriau gwrth-epilepsi, peidio cael digon o gwsg, methu prydau bwyd, gor-flino a bod o dan straen. 

I leihau’r perygl o ddamweiniau i chi a’ch babi:

  • Cofiwch gymryd eich cyffuriau gwrth-epilepsi drwy ddefnyddio cloc larwm, larwm ar eich ffôn symudol neu flwch pilsen.
  • Ceisiwch osgoi pethau sy’n tarfu ar eich cwsg a cheisiwch gael digon o orffwys. Rhannwch sesiynau bwydo nos gyda’ch partner, aelod o’r teulu neu ffrind. Os ydych yn  bwydo ar y fron, tynnu llaeth â llaw ac adeiladu stôr o laeth i aelodau o’r teulu neu ffrindiau eich helpu chi gyda’r bwydo, fel y gallwch chi orffwys pan fyddwch angen gwneud hynny. Gall tynnu llaeth y fron â llaw cyn i chi gymryd eich cyffuriau gwrth-epilepsi leihau swm y cyffur sydd yn llaeth y fron.
  • Ceisiwch gael eich babi i’r arfer o amser gwely cynnar fel y gallwch chi fynd i gysgu yn gynt.
  • Ceisiwch orffwyso a chysgu ar yr un amser â’ch babi ond peidiwch â chysgu gyda’ch babi.
  • Os yn bosibl, gofynnwch i oedolyn arall gario eich babi i fyny ac i lawr y grisiau. Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gario eich babi mewn sedd car gyda’r strapiau’n ddiogel rhag ofn i chi gael codwm. 
  • Defnyddiwch gadair wthio i symud eich babi o gwmpas yn hytrach na chario eich babi.

Rhoi bath, newid a gwisgo eich babi

Dylech aros hyd nes y bydd oedolyn arall gyda chi cyn rhoi bath i’ch babi os ydych yn profi neu mewn perygl o gael trawiadau. Os ydych wrthych eich hun, gallwch olchi eich babi gyda dŵr o bowlen fas yn defnyddio cadach neu sbwng. Newidiwch eich babi ar y llawr a chadwch gewynnau a deunyddiau newid sbâr wrth ymyl. 

Bwydo eich babi

Rydym yn argymell bwydo eich babi ar y fron. Cysylltwch â’ch meddyg teulu os yw eich babi’n dangos tawelwch gormodol, yn cael anhawster bwydo a/neu’n dangos arwydd o frech.

Eisteddwch ar y llawr, ar ryg trwchus, gyda’ch cefn wedi ei gefnogi’n dda i fwydo eich babi. Dylai hyn leihau’r perygl i’r babi ddisgyn ar arwynebedd caled os cewch drawiad.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol