Awgrymodd ymchwil diweddar y gallai rhai babanod tafodrwym brofi trafferthion bwydo. Y rheswm am hyn yw bod tafod sy'n symud yn rhydd yn bwysig iawn ar gyfer cydio’n gywir yn y fron ac er mwyn tynnu llaeth yn effeithiol o'r fron yn ystod bwydo. Fodd bynnag, mae pob mam a babi yn wahanol a chaiff rhai eu heffeithio yn fwy gan dafodrwym nag eraill. Yr arwyddion all nodi trafferthion posibl yw:
I'r babi:
Efallai y bydd rhai mamau a babanod yn cael un o'r problemau hyn yn unig, gall eraill brofi mwy ohonynt a gall rhai fwydo heb unrhyw broblemau.
Cyn i ni ddod yn gymdeithas bwydo â photel yn y ganrif ddiwethaf, roedd meddygon a bydwragedd yn gwybod efallai y gallai tafodrwym effeithio ar fwydo babi a byddent yn ei ryddhau er mwyn helpu'r fam a'r babi. Fel y daeth defnyddio potel yn fwy cyffredin, anghofiwyd am dafodrwym fel achos posibl o broblemau bwydo ar y fron. Dros y blynyddoedd diwethaf, cynhaliwyd astudiaethau yn y DU ac UDA sydd wedi dangos y gallai tafodrwym achosi problemau bwydo i rai babanod a bod ei ryddhau wedi cael effaith fuddiol iawn ar y trafferthion bwydo ar y fron a ddisgrifwyd.
Ym misoedd cynnar bywyd, rhyddheir tafodrwym drwy weithred syml sy'n cymryd ychydig eiliadau yn unig. Nid oes ar y babi angen anaesthetig, mae ychydig ddiferion o waed fel arfer a deuir â'r babi yn ôl at y fam yn syth ar gyfer bwydo ar y fron. Anaml iawn y bydd tafodrwym yn ail ffurfio ac angen llawdriniaeth bellach fel y mae'r plentyn yn mynd yn hŷn.
Os hoffech wybodaeth bellach ar dafodrwym neu'r weithred i'w ryddhau, trafodwch â'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd. Gallant wneud apwyntiad i chi i fynychu'r clinig bwydo ar y fron am asesiad pellach os yw'r dafodrwym yn ymddangos fel pe bai'n achosi trafferthion bwydo ar y fron.