Gall unrhyw un gael STI, ac mae'n bwysig iawn trin y rhain yn gyflym. Felly cymerwch reolaeth dros eich iechyd rhywiol y SEXtember hwn. Casglwch becynnau profi a phostio am ddim o fannau casglu ledled Gogledd Cymru, neu gallwch archebu'r rhain ar-lein.
Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau’r prawf sy’n hawdd eu defnyddio, yna dychwelwch y prawf drwy’r post. Byddwn yn cysylltu â chi gyda'ch canlyniad, ynghyd â chyngor ynghylch beth i'w wneud nesaf.
I wneud pethau mor ddidrafferth ȃ phosibl, rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod profion ar gael i'w casglu am ddim o leoliadau amrywiol ar draws Gogledd Cymru. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cerdded i mewn a gofyn am becyn profi a phostio.
Mae’r cyfan yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd neb yn gofyn am eich manylion, ac mae’r prawf wedi’i orchuddio mewn pecyn plaen. Mae llawer o’n mannau casglu yn cynnig condomau am ddim i bobl ifanc fel rhan o’r cynllun Cerdyn-C.
Yn ogystal, byddwn yn rhannu pecynnau yn nigwyddiadau myfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion ar draws Gogledd Cymru yn ystod mis Medi.
Archebwch becyn profi a phostio am ddim gan Iechyd Rhywiol Cymru.
Gall eich clinig iechyd rhywiol lleol ddarparu cymorth a chyngor manwl i gefnogi eich iechyd rhywiol a’ch lles.
Rydym yn cynnig cymorth gydag atal cenhedlu a chyngor ar gael rhyw yn ddiogel, archwiliadau, profion a thriniaeth am ddim ar gyfer cyflyrau iechyd rhywiol cyffredin, gofal HIV, a meddyginiaethau i helpu i atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV (gan gynnwys PrEP a PEP).
Gallwn siarad â chi am eich beichiogrwydd, a'ch cefnogi gyda dewisiadau beichiogrwydd. Mae cymorth a gwasanaethau arbenigol hefyd ar gael i bobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol.
SEXtember yw ymgyrch flynyddol iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd rhywiol yn ystod mis Medi.
Nod yr ymgyrch yw:
Mae ein hymgyrch wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau iechyd rhyw yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau sy'n agos at le’r ydych yn byw ar GIG 111 Cymru.
Os hoffech wybodaeth bellach am ymgyrch SEXtember, cysylltwch â Dr Ushan Andrady, Arweinydd yr Ymgyrch, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol/HIV yn BCU.SextemberCampaign@wales.nhs.uk.