Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Rheoli Ffordd o Fyw

I bwy mae?

Oedolion sydd â phoen yn y glun a/neu gymal y benglin (sy'n gysylltiedig ag osteroarthritis), sydd â Mynegai Màs y Corff sy'n uwch na 35kg/m2, a fyddai'n elwa ar wybodaeth, ymarfer corff a cholli pwysau i leihau poen a gwella symudedd.

Beth yw hi?

Rhaglen wybodaeth, ymarfer corff a rheoli pwysau a gynhelir gan Ffisiotherapyddion a Deietegwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mewn Canolfannau Hamdden ar draws Gogledd Cymru ar y cyd â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS).

Beth yw'r buddion?

Bwriad y rhaglen yw gwella eich iechyd a'ch symudedd, hwyluso colli pwysau, lleddfu poen ac osgoi'r angen am lawdriniaeth lle bo'n bosibl. Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus hefyd yn sicrhau eich bod mor ffit â phosibl cyn llawdriniaeth os bydd angen, sydd â'r nod o wella amseroedd adfer a chanlyniadau.

Beth fydda' i'n ei wneud?

Yn dilyn asesiad gan Ffisiotherapydd, byddwch yn dilyn rhaglen ymarfer corff 12 wythnos wedi'i theilwra i'ch anghenion, gan gynnwys dwy sesiwn yr wythnos, dan oruchwyliaeth gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn eich Canolfan Hamdden leol.

Er mwyn darparu'r offer a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i golli pwysau ac i sicrhau na fyddwch yn magu pwysau eto, byddwch hefyd yn mynd i raglen grŵp rheoli pwysau KindEating sy’n para am 12 wythnos, a gynhelir gan Ddeietegwyr.

Ni chodir tâl ar gleifion ar gyfer y rhaglen.

Pwy sy'n gallu fy nghyfeirio?

Gall eich meddyg, eich nyrs neu’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eich cyfeirio at Ffisiotherapi ar gyfer y rhaglen hon.