Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfunol sy'n ddiogel ac yn effeithiol sy'n amddiffyn rhag y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela gydag un pigiad, sy'n golygu bod angen llai o apwyntiadau brechu. Mae angen cwrs llawn (dau ddos) i amddiffyn yn llawn, sy'n gallu atal dros 99% o achosion o'r frech goch.
Y Frech Goch
Mae'r frech goch yn salwch hynod heintus sy'n gallu achosi problemau iechyd difrifol; gall rhyw 20% o achosion brofi un neu fwy o gymhlethdodau.
Cyn i frechlyn y frech goch gael ei gyflwyno ym 1968, byddai rhyw 100 o blant yng Nghymru ac yn Lloegr yn marw o'r afiechyd bob blwyddyn. Gall unrhyw un ddal y frech goch os nad ydynt wedi cael eu brechu neu os nad ydynt wedi'i chael o'r blaen, ond mae'n fwyaf cyffredin ymysg plant bach.
Oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu, mae achosion o'r frech goch a marwolaethau cysylltiedig bellach yn anghyffredin, yn ffodus.
Amddiffyn eich Teulu a'ch Cymuned
Mae angen i gyfran fawr o'r boblogaeth (dros 95%) gael ei brechu'n llawn er mwyn atal achosion o'r frech goch yn y gymuned. Mae hyn hefyd yn amddiffyn y nifer fach o blant sy'n agored i niwed nad ydynt yn gallu cael y brechlyn MMR, fel y rheiny sydd â chyflyrau iechyd penodol neu sy'n cymryd meddyginiaethau penodol. Bydd eich meddyg teulu'n cynghori ar hyn.
Brechu ar Amser
Mae'n bwysig bod y brechlyn MMR yn cael ei roi ar amser er mwyn diogelu yn y ffordd orau bosibl. Dylai'r dos cyntaf gael ei roi i'ch plentyn ar 12 mis oed, a'r ail ddos ar dair blwydd a phedwar mis oed. Fodd bynnag, gallwch ddal i fyny os byddwch yn colli unrhyw ddosiau. Gall unrhyw un sydd wedi cael ei eni ar ôl 1970, yn cynnwys pobl sy'n symud i'r DU, gael y brechlyn MMR yn rhad ac am ddim.
Wedi colli Dos?
Os tybiwch eich bod chi neu'ch plentyn wedi colli brechlyn MMR, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu neu'ch Ymwelydd Iechyd am gyngor. Os oes amheuaeth, sicrhewch eich bod yn ei gael. Hyd yn oed os ydych wedi'i gael o'r blaen, ni fydd yn peri niwed i chi gael cwrs arall o'r brechiad.