Clinigau brechu cymunedol yn Sir Ddinbych
Ceir rhagor o fanylion isod am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau.
O ddydd Llun 16 Rhagfyr ymlaen, bydd pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yn gallu galw heibio yn un o'n canolfannau brechu yn y gymuned i gael y brechlyn heb apwyntiad.
Gall pobl sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio yn un o'n clinigau hyd yn oed os oes apwyntiad wedi'i neilltuo iddynt. Nid oes angen cysylltu â ni i ganslo apwyntiad sydd eisoes wedi'i neilltuo.
Os oes apwyntiad eisoes wedi'i neilltuo i bobl sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19, gallant ddewis mynd i gael eu brechu ar adeg yr apwyntiad hwnnw os dymunant.
Os yw pobl sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yn dymuno trefnu apwyntiad, gallant gysylltu â Chanolfan Alwadau ein Gwasanaeth Brechu ar 03000 840004 neu gallant e-bostio BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.
Bydd staff y GIG, aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, pob gweithiwr gofal cymdeithasol arall a gweithwyr gofal cartref yn gallu galw heibio yn un o'r clinigau hyn i gael eu brechlyn blynyddol rhag y ffliw heb apwyntiad. Bydd brechlynnau rhag y ffliw alw heibio ar gael i aelodau staff y GIG a gweithiwr gofal yn unig ar yr adeg hon – cofiwch ddod â'ch bathodynnau adnabod neu llythyr gan eich cyflogwr.
Mae gwybodaeth ar gael yma ynghylch sut gall pobl eraill sy'n gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw gan y GIG sicrhau eu bod yn cael hynny.
Cwrt y Gofeb Ryfel, Y Rhyl LL18 4BS
Gall pobl sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yn Canolfan Dydd Hafan Deg, Y Rhyl, i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 ar y dyddiadau canlynol. Hefyd, gall staff GIG a gweithwyr gofal alw heibio’r sesiynau hyn heb apwyntiad i gael eu brechlyn ffliw neu frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19.
Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10.30am i 12.30pm a rhwng 2pm i 4pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.
Maes y Ffatri, Dinbych LL16 3TS
Gall pobl sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yn Canolfan Gymunedol Eirianfa, Dinbych, i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 ar y dyddiadau canlynol. Hefyd, gall staff GIG a gweithwyr gofal alw heibio’r sesiynau hyn heb apwyntiad i gael eu brechlyn ffliw neu frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19.
Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10.30am i 12.30pm a rhwng 2pm i 4pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.
200 Ffordd Fictoria, Prestatyn LL19 7TL
Gall pobl sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 alw heibio un o’n clinigau yn Eglwys yr Ŵyl, Prestatyn, i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 ar y dyddiadau canlynol. Hefyd, gall staff GIG a gweithwyr gofal alw heibio’r sesiynau hyn heb apwyntiad i gael eu brechlyn ffliw neu frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19.
Mae clinigau yn cael eu cynnal rhwng 10.30am i 12.30pm a rhwng 2pm i 4pm. Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.