Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn ffliw

Lleihau’r risg o salwch difrifol gyda brechlyn blynyddol y GIG rhag y ffliw

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag y ffliw yw cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch chi yn ei ddal, a helpu atal rhag ei drosglwyddo i bobl sy'n agored i niwed.

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach.

 

Ydw i'n gymwys a sut mae cael brechlyn rhag y ffliw?

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Llywodraeth Cymru, bydd y grwpiau canlynol yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu rhag ffliw y gaeaf hwn. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut i gael y brechlyn. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut y gall aelodau o bob grŵp gael eu brechiad yma yng Ngogledd Cymru. 

 

Rhagor o wybodaeth am frechlynnau gaeaf