Neidio i'r prif gynnwy

Prysuro'r esgor

Mae prysuro'r esgor yn broses a ddefnyddir i ysgogi'r esgor i gychwyn yn artiffisial. Fel arfer, bydd bydwraig neu feddyg yn argymell prysuro'r esgor os cytunir y bydd hynny'n fuddiol i fam a/neu faban. Efallai yr argymhellir prysuro'r esgor hefyd os bydd hynny'n golygu llai o risgiau i fam neu faban na gadael i'r beichiogrwydd barhau yn naturiol.

Ceir llawer o resymau dros argymell prysuro'r esgor a dylid trafod y rhesymau hynny a'u hegluro'n llawn i chi pan gynigir prysuro'r esgor. Buasem yn eich annog i holi bydwraig/meddyg os byddwch chi'n ansicr ynghylch unrhyw wybodaeth a roddir i chi.

Sut caiff yr esgor ei brysuro?

Ceir nifer o ddulliau y gellir eu defnyddio i brysur eich esgor. Weithiau, defnyddir mwy nag un dull. Bydd y dulliau penodol a ddefnyddir yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol gan gynnwys eich beichiogrwydd presennol, beichiogrwydd neu enedigaeth flaenorol a chefndir meddygol, a bydd canfyddiadau yn sgil archwiliad o'r fagina yn datgelu pa mor feddal fydd ceg eich croth a faint y bydd wedi agor. Mae dulliau i brysuro'r esgor yn cynnwys:

Faint fydd y trwyth hormonau yn bara?

Mae'n bwysig cofio na ellir rhuthro'r broses o roi'r trwyth hormonau a bydd yn bwysig sicrhau y neilltuir yr amser sy'n ofynnol i bob dull gychwyn gweithio. Bydd rhai merched yn ymateb yn eithaf cyflym i'r dulliau hyn, ond yn achos eraill, bydd yn broses hirach a gall bara hyd at 5 diwrnod ar brydiau.

Beth fydd yn digwydd os methir â phrysuro'r esgor?

Mewn nifer fechan o achosion, ni lwyddir i brysuro'r esgor ar ôl rhai sawl cynnig arni. Trafodir hyn â'ch obstetregydd a bydd cynllun geni yn cael ei lunio.

P’ un a yw eich esgor yn cael ei brysuro ai peidio, mae geni baban yn dipyn o gamp.