Neidio i'r prif gynnwy

Fitaminau ac atchwanegiadau yn ystod beichiogrwydd

Bydd bwyta deiet amrywiol a chytbwys yn eich helpu chi i gael y rhan fwyaf o'r maeth sydd ei angen i gefnogi beichiogrwydd iach. Fodd bynnag, cynghorir y rhai sy'n feichiog hefyd i gymryd atchwanegiad asid ffolig a fitamin D gyda'u deiet.

Asid ffolig

Argymhellir ychwanegiad dyddiol o 400 microgram o asid ffolig tan ddiwedd y 12fed wythnos o’r beichiogrwydd i helpu lleihau’r risg o broblemau datblygiadol yn ystod y dyddiau cynnar o feichiogrwydd, megis spina bifida (diffygion tiwb nerfol). Argymhellir cymryd atchwanegiad, yn ogystal â bwyta deiet sydd llawn ffolad naturiol a bwydydd cyfnerthedig fel grawnfwydydd brecwast. Mae ffynonellau da o ffolad yn cynnwys llysiau deiliog gwyrdd, ffa a chodlysiau, orenau a bwydydd grawn cyflawn.

Mae rhai yn cael eu cynghori gan eu bydwraig neu gan eu Meddyg Teulu i gymryd dos uwch o asid ffolig (5 miligram); er enghraifft os oes ganddynt ddiabetes, clefyd coeliag, Mynegai Màs y Corff (BMI) uwch, neu’n cymryd meddyginiaeth gwrth-epilepsi.

Fitamin D

Argymhellir atchwanegiad dyddiol o fitamin D 10 microgram ar gyfer y rhai sy’n feichiog ac sy’n bwydo ar y fron.

Mae fitamin D yn gweithio gyda chalsiwm a ffosfforws yn y corff i adeiladu ac amddiffyn esgyrn, cyhyrau a dannedd iach. Mae cael digon o fitamin D yn helpu’r corff i amsugno’r holl galsiwm sydd ei angen arno ar gyfer esgyrn iach. Bwydydd sy’n darparu ffynhonnell dda o fitamin D yw pysgod olewog gan gynnwys eog, sardinau a phenwaig Mair, wyau (melynwy), a rhai grawnfwydydd brecwast ac iogwrt cyfnerthedig. Fodd bynnag, rydym yn cael y rhan fwyaf o’n fiatmin D gan yr haul. Mae cael deiet cytbwys ac iachus yn hanfodol ar gyfer yr holl faetholion pwysig eraill, ond mae’n annhebygol o ddarparu digon o fitamin D. Yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, dibynnir ar storfeydd y corff i gyflenwi fitamin D, ond yn aml nid yw'r rhain yn ddigon i gadw lefelau cyson, ac felly argymhellir cymryd atchwnegiad dyddiol o 10 microgram, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn.

Efallai y bydd atchwanegiadau fitamin D yn cael eu labelu mewn IU (unedau rhyngwladol) yn hytrach na microgramau. Mae 400 IU yr un peth â 10 microgram. Nid yw rhai atchwanegiadau fitamin D yn addas ar gyfer y rhai sy'n dilyn diet fegan felly gwiriwch labeli a sicrhewch fod dewisiadau'n cynnig yr un symiau dyddiol neu'r un symiau dyddiol a argymhellir uchod.

Dylai’r rhai sydd yn feichiog, neu y gallai ddod yn feichiog, osgoi unrhyw atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A (retinol).

Lle i gael atchwanegiadau ar gyfer beichiogrwydd

Mae’r Cynllun Cychwyn Iach yn cynnig fitaminau a chymorth am ddim er mwyn prynu bwyd a llaeth iach ar gyfer teuluoedd cymwys sy’n feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 blwydd oed.

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn fitaminau Cychwyn Iach yn ystod beichiogrwydd, gallwch brynu atchwanegiadau sy’n cynnwys asid ffolig a fitamin D o ystod eang o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd. Rhai ystyriaethau allweddol yw:

  • Edrychwch am atchwanegiadau sydd wedi’u labelu fel addas ar gyfer beichiogrwydd.
  • Peidiwch â chymryd atchwanegiadau olew afu penfras neu unrhyw atchwanegiad sy’n cynnwys fitamin A (retinol).
  • Os ydych yn meddwl eich bod angen swm uwch o asid ffolig, siaradwch â’ch bydwraig neu Feddyg Teulu.
  • Efallai y bydd yn rhatach prynu asid ffolig a fitamin D fel atchwanegiadau ar wahân.
  • Efallai na fydd rhai atchwanegiadau fitamin D yn cynnwys 10 microgram union fesul tabled. Efallai y bydd rhai yn cynnwys ychydig mwy. Ceisiwch ddod o hyd i un sy’n agos i’r swm hwn a pheidiwch â chymryd mwy na 100 microgram (4,000IU) o unedau'r dydd gan y gallai hyn fod yn niweidiol.
  • Gwiriwch i weld os yw’r atchwanegiad yn addas ar gyfer eich anghenion e.e. nid yw pob atchwanegiad fitamin D yn addas ar gyfer feganiaid.
  • Gall rhai mathau o atchwanegiadau ar gyfer beichiogrwydd fod yn ddrud iawn ac efallai y byddant yn cynnwys ystod eang o fitaminau, mwynau neu faetholion nad oes eu hangen arnoch neu nad yw’n hanfodol i ategu eich deiet. Gwiriwch labeli a thrafodwch â’ch bydwraig neu weithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn ansicr.