Neidio i'r prif gynnwy

Croen wrth Groen

Mae cyswllt croen wrth groen gyda'ch babi ar ôl genedigaeth yn helpu eich babi i symud yn ddiogel o'r groth i'r byd ac yn gychwyn ar eich perthynas newydd.

Anogir pob mam i ddal ei babi yn agos at ei brest mewn cyswllt croen wrth groen ar ôl yr enedigaeth waeth sut y maent yn bwriadu bwydo’r babi. Bydd eich bydwraig yn sychu'ch babi, a’i osod heb ddilledyn ar eich croen, a gorchuddio'r ddau ohonoch â thywel neu flanced. Rydym yn eich annog i ddal eich babi yn agos at eich croen fel hyn am o leiaf awr neu hyd nes y bydd y babi wedi cael ei fwydo o’r fron am y tro cyntaf.

Mae crysau-T gwddf isel a festiau yn ddillad defnyddiol i'w gwisgo yn yr ysbyty i wneud cyswllt croen wrth groen yn haws. Bydd babi sydd mewn cyswllt croen wrth groen yn aml yn symud yn reddfol tuag at y fron gan ddilyn ei synnwyr arogli. Dylid osgoi persawr cryf iawn neu sebonau.

 Pam mae cyswllt croen mor bwysig?

  • Mae cyswllt croen gyda mam yn hanfodol i helpu’r babi i drosglwyddo'n ddiogel “o'r groth i'r byd”
  • Mae'n tawelu ac yn cysuro eich babi ac yn ei helpu i deimlo'n ddiogel
  • Mae'n tawelu mam ar ôl straen esgor a genedigaeth
  • Mae'n helpu i reoli curiad calon ac anadlu eich babi yn ogystal â’i dymheredd  - gan helpu'ch babi i gadw'n gynnes
  • Mae'n annog bondio greddfol pwysig rhwng mamau a babanod
  • Mae cysylltiad â'r croen a bwydo'n gynnar yn golygu bod bwydo o’r fron yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus yn y pen draw.

Cadwch eich babi mewn cysylltiad â’ch croen cymaint â phosibl yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf. Mae cyswllt croen wrth groen yn ffordd wych o fondio gyda'ch babi yn syth ar ôl yr enedigaeth ac yn yr wythnosau a'r misoedd sy'n dilyn. Rydym yn annog tadau a phartneriaid i gael rhywfaint o gyswllt croen â'r babi hefyd.

Beth os na allwch chi gael cyswllt croen wrth groen gyda'ch babi yn syth?

Weithiau gall problemau godi yn ystod ac ar ôl yr enedigaeth sy'n golygu efallai na fyddwch yn gallu cael cysylltiad croen wrth groen â'ch babi ar unwaith.

Gwnewch yn siŵr bod eich partner geni yn ymwybodol y gall fod angen iddyn nhw gymryd yr awenau a dal eich babi mewn cysylltiad croen wrth groen os oes angen triniaeth feddygol arnoch. Dylai eich partner geni baratoi ar gyfer yr enedigaeth trwy wisgo top sy'n agor yn hawdd fel y gellir gosod eich babi ar y frest a'i orchuddio'n gynnes.

Cyn gynted ag y bydd eich cyflwr meddygol yn caniatáu, dylid trosglwyddo eich babi yn syth yn ôl atoch am gyfnod hir o gyswllt croen wrth groen i gychwyn y cam pwysig hwn yn eich perthynas newydd. 

Dal eich babi yn ddiogel

Dylai eich bydwraig gael trafodaeth gyda chi a'ch partner geni yn fuan ar ôl yr enedigaeth ynglŷn â sut i ddal eich babi'n ddiogel. Galwch aelod o staff ar unwaith os oes gennych unrhyw bryderon am liw neu gyflwr eich babi.

Daliwch eich babi yn ddigon agos fel y gallwch chi:

  • Gusanu pen eich babi
  • Gweld gên eich babi
  • Gweld lliw eich babi yn hawdd
  • Cadw gwddf eich babi yn syth a'i ben yn unionsyth er mwyn medru anadlu'n hawdd

Mae'n bwysig eich bod yn dal eich babi'n ddiogel mewn cyswllt croen wrth groen. Cewch fwy o wybodaeth am ddal eich babi yn ddiogel ar wefan Unicef

Mae angen i’ch babi wybod eich bod chi'n agos drwy'r amser. Byddant wedi arfer clywed eich llais a chlywed eich calon yn curo ac felly mae cyswllt croen yn helpu’ch babi i deimlo'n ddiogel.

Dod i adnabod ac ymateb i anghenion eich babi newydd

Bydd ymennydd eich babi yn datblygu’n gyflym yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu ymennydd eich babi i ddatblygu’n dda:

  • Magu eich babi
  • Cusanu eich babi
  • Ymateb i'ch babi pan fydd yn crio
  • Siarad â'ch babi
  • Gwneud cyswllt llygaid â'ch babi
  • Cadw eich babi yn agos atoch ddydd a nos
  • Bondio ar gyfer tadau a phartneriaid – cael cyfnod (e.e. o leiaf awr) o gyswllt croen wrth groen gyda’r babi bob dydd yw’r ffordd orau i dad/ partner fondio gyda babi newydd