Cwrs ar-lein rhad ac am ddim i bawb yng ngogledd Cymru sydd eisiau bod yn fam, tad, nain, taid neu ofalwr gwell fyth.
Mae cyrsiau magu plant ar-lein Solihull yn cefnogi POB darpar riant, rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr unrhyw blant o’r amser cyn iddyn nhw gael eu geni hyd at 18 mlwydd oed.
Mae’r model yn ein helpu ni i ddeall sut rydyn ni’n prosesu ein hemosiynau ac yn ein galluogi i adeiladu perthnasau cryfach gyda’n gilydd.
Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer rhieni a gofalwyr pob plentyn gan gynnwys y rhai ag awtistiaeth, ADHD neu anghenion ychwanegol eraill.
Rhowch god mynediad NWSOL i gael mynediad am ddim i’r cyrsiau.
Mae’r dull Solihull Approach yn cael ei ddefnyddio gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr teulu, gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol yn ogystal â diffoddwyr tân, swyddogion carchar ac athrawon ledled y DU a’r byd.
Mae’r cyrsiau achrededig sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth yn cynnwys:
Nodiadau
Rhowch god mynediad NWSOL i gael mynediad am ddim i’r cyrsiau. Bydd gofyn i chi greu cyfrif er mwyn i chi fedru ailgydio lle gwnaethoch adael.
Bydd yr holl wybodaeth bersonol a roddwch yn breifat. Mae eich atebion i’r cwestiynau monitro yn ddienw. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw e-byst marchnata ond byddwch yn derbyn e-bost yn eich llongyfarch pan fyddwch chi’n cwblhau modiwl.
Mae hi’n bosibl y bydd The Solihull Approach yn anfon e-bost atoch o bryd i’w gilydd i ddweud wrthych chi am ddiweddariadau i’r cwrs. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â phreifatrwydd ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: BCU.NWSOL@wales.nhs.uk
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau technegol, cysylltwch â’r tîm cymorth cenedlaethol: solihull.approach-parenting@heartofengland.nhs.uk
RYDYM ANGEN EICH CYMORTH
Yn seiliedig ar lwyddiant cyrsiau Solihull Approach, ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gyrsiau Solihull Approach hydynoed ymhellach, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth. Bydd casglu eich sylwadau yn ein helpu i ddangos gwerth y cyrsiau wrth i ni barhau i gefnogi teuluoedd ar draws Gogledd Cymru. Ni ddylai'r ffurflen yn y ddolen isod gymryd mwy na 5 munud i'w chwblhau a bydd yn ddienw.
Dolen i’r arolwg: Cyrsiau ar lein Solihull Approach
Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol