Mae Bwyta'n Ddoeth yn ystod Beichiogrwydd yn rhaglen newydd gyffrous sy'n cael ei chynnig i'r holl ferched beichiog yn ardal Wrecsam ac mae ar gael i ferched ar draws Gogledd Cymru os ydynt yn fodlon teithio i Wrecsam.
Wedi ei datblygu gan Ddietegwyr Iechyd Cyhoeddus a Bydwragedd, ei nod yw cefnogi merched i fwyta'n iach a bod yn actif a chynnal pwysau beichiogrwydd iach.
Trosolwg o'r Rhaglen
Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal dros 6 sesiwn wythnosol, sy'n cynnwys pynciau megis:
Ein nod yw cefnogi a rhoi grym i ferched i wneud dewisiadau gwybodus am eu harferion bwyta ac arferion gweithgarwch.
Cyfarfod y Tîm
Sarah Powell-Jones - Hwylusydd Bwyta'n Ddoeth mewn Beichiogrwydd
Andrea Basu - Arweinydd Gwasanaeth dros Ddieteteg Iechyd Cyhoeddus
Sut i gofrestru
Mae rhaglenni ar gael mewn gwahanol leoliadau ar draws Wrecsam gyda dyddiadau ac amser dechrau gwahanol yn amrywio o'r bore, amser cinio a gyda'r nos i alluogi i gymaint o ferched â phosibl gael mynediad at y sesiynau.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen ac i gofrestru, ewch ar Fipwrexham.eventbrite.com, fel arall gofynnwch i'ch bydwraig am fanylion neu cysylltwch â Sarah Powell-Jones, Hwylusydd Bwyta'n Ddoeth yn ystod Beichiogrwydd ar 07966 516 743.