Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron

Nod y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yw:

  • Cefnogi a grymuso mamau a theuluoedd i deimlo'n hyderus wrth fwydo ar y fron allan yn y gymuned
  • Cynnig ffordd hawdd i gymunedau a busnesau ddangos eu bod yn croesawu ac yn cefnogi bwydo ar y fron
  • Codi ymwybyddiaeth o’r manteision a’r rhwystrau i fwydo ar y fron
  • Cefnogi busnesau a sefydliadau i fod yn fwy ystyriol o fwydo ar y fron

Pwy all ymuno â'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron?

Mae'r Cynllun yn agored i unrhyw fusnes, lleoliad neu sefydliad sydd â safleoedd cyhoeddus ac sy'n dymuno dangos eu bod yn croesawu mamau a theuluoedd sy'n bwydo ar y fron.

Nid yw'r Cynllun yn costio dim byd, ond rydym yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer ein polisi Croesawu Bwydo ar y Fron ar ran eich sefydliad ac arddangos sticer y Cynllun yn eich ffenestr hefyd. Yn ogystal, mae gofyn i bob lleoliad sydd yn y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron gael eu cynnwys yn yr adran Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron ar wefan Dewis Cymru. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw restrau eraill sydd gennych ar Dewis Cymru.

Sut mae ymuno â'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron?

I ymuno â'r cynllun mae angen i chi lenwi Ffurflen Cytundeb Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron sydd i'w gweld ar wefan y Bwrdd Iechyd

Ar ôl i chi anfon eich manylion, byddwch yn derbyn sticer dwyieithog, a bydd Pecyn Croeso y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn cael ei anfon atoch yn electronig. Gofynnwn i chi rannu'r manylion yn y Pecyn Croeso hwn gyda'ch staff a gwirfoddolwyr i gyd fel eu bod yn gwybod am y Cynllun a sut i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron yn eich safle gwaith.

Pam fod angen y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron arnom?

Mae bwydo ar y fron yn dda i famau, babanod a'r amgylchedd. Mae’r gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) yn amddiffyn hawl menyw i fwydo ei babi ar y fron mewn mannau cyhoeddus, ond mae llawer o famau newydd yn teimlo’n nerfus am fwydo ar y fron wrth fynd allan. Gall hyn olygu bod menywod yn aros gartref pan gaiff eu babi ei eni, a all wneud iddynt deimlo'n unig ac yn ynysig, neu eu bod yn dewis peidio â bwydo ar y fron neu roi'r gorau i fwydo ar y fron cyn iddynt ddymuno gwneud hynny.

Yng Ngogledd Cymru, er bod dros hanner yr holl famau newydd yn dechrau bwydo ar y fron pan gaiff eu babi ei eni, erbyn i’w babi gyrraedd 6 wythnos oed mae mwy na hanner y mamau hyn yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron.

Mae’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn ffordd y gall busnesau a sefydliadau ddangos i famau a theuluoedd sy’n bwydo ar y fron a’r gymuned ehangach eu bod yn croesawu mamau sy’n bwydo ar y fron a’u bod yn helpu mamau i deimlo’n fwy cyfforddus wrth fwydo ar y fron.

Beth yw'r gyfraith am fwydo ar y fron yn gyhoeddus?

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi mai gwahaniaethu ar sail rhyw yw trin menyw yn llai ffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau, buddion, cyfleusterau ac adeiladau i’r cyhoedd, cyrff cyhoeddus, cyrff a chymdeithasau addysg bellach ac uwch. Mae darparwyr gwasanaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o sefydliadau sy'n delio'n uniongyrchol â'r cyhoedd. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau beidio â gwahaniaethu, aflonyddu nac erlid menyw oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron.

Mae gwahaniaethu yn cynnwys gwrthod darparu gwasanaeth, darparu gwasanaeth o safon is neu ddarparu gwasanaeth ar delerau gwahanol.

Mae menywod sy’n bwydo ar y fron yn cael eu hamddiffyn mewn mannau cyhoeddus megis parciau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, adeiladau cyhoeddus ac wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau, trenau ac awyrennau o dan y ddeddf. Maent hefyd yn cael eu hamddiffyn mewn siopau, bwytai a gwestai waeth pa mor fach ydynt, a hefyd mewn mannau fel ysbytai, theatrau, sinemâu a gorsafoedd petrol.

Pam mae bwydo ar y fron yn bwysig?

Llaeth y fron yw'r maeth gorau i fabanod. Argymhelliad y GIG yw na ddylai babanod gael dim byd ond llaeth o’r fron tan eu bod yn chwe mis oed ac yna y dylai bwydo ar y fron barhau, ynghyd â bwydydd eraill, hyd at 2 flwydd oed a thu hwnt os yw’r fam yn dymuno. Mae bwydo ar y fron yn cael ei gydnabod fel un o’r ffyrdd pwysicaf i wella iechyd plant ac fe’i hystyrir yn allweddol i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae bwydo ar y fron yn rhoi amddiffyniad rhag nifer fawr o afiechydon plentyndod gan gynnwys heintiau ar y frest, y stumog a'r glust, diabetes a gordewdra ymhlith plant. Gall mamau sy'n bwydo ar y fron hefyd gael buddion iechyd, gan eu bod yn lleihau eu risg o ganser y fron, canser yr ofari a thoriadau clun yn ddiweddarach mewn bywyd. Po hiraf y bydd mam yn bwydo ar y fron, y mwyaf o fanteision iechyd y bydd iddi hi ac i’w babi.

Ni all mamau bob amser ragweld pryd y bydd angen iddynt fwydo eu babi ac mae’r GIG yn argymell bod babi’n cael ei fwydo ar y fron pryd bynnag y bydd yn dangos ei fod angen bwyd, felly mae angen i famau allu bwydo eu babi ble bynnag y maent – ac mae hyn yn cynnwys llefydd cyhoeddus. Mantais enfawr bwydo ar y fron yw bod llaeth y fron bob amser yn barod ac ar y tymheredd cywir felly nid oes angen cario poteli wedi'u sterileiddio, powdr llaeth neu offer cynhesu poteli.

  • Cofiwch na ddylai unrhyw fam byth deimlo'n anghyfforddus am fwydo ar y fron yn gyhoeddus ac ni ddylid byth disgwyl i fam fwydo mewn toiled, ystafell newid na gofyn iddi roi'r gorau i fwydo a symud i rywle arall.
  • Nid yw mamau o hyd yn gwybod pryd y bydd angen bwydo eu babi ac yn aml fe fyddant allan pan fydd eu babi angen bwyd.
  • Efallai mai dyma’r tro cyntaf i fam deimlo’n ddigon dewr i fwydo ar y fron yn gyhoeddus a gallai’r gefnogaeth a gaiff heddiw ei helpu i deimlo’n fwy hyderus y tro nesaf.

Casglu adborth a gwerthuso'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron

Rydym am i'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron weithio'n dda i famau sy'n bwydo ar y fron a’u teuluoedd a'r busnesau neu'r lleoliadau sydd wedi ymuno â’r cynllun.

Unwaith y flwyddyn bydd Tîm Iechyd Cyhoeddus BIPBC yn cysylltu â chi i weld a ydych chi'n dal yn hapus i fod yn rhan o’r Cynllun ac i holi os yw’ch manylion wedi newid. Gwneir hyn i gadw'r rhestr o leoliadau Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn gyfredol ac yn gywir ar wefan Dewis Cymru. Os ydych wedi penderfynu gadael y Cynllun, gofynnwn i chi dynnu’r sticer Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron i lawr o’ch ffenestr, a byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar adran Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Dewis Cymru (ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw restrau eraill y gallech fod yn rhan ohonynt ar Dewis Cymru). 

Ambell dro, efallai bydd Tîm Iechyd Cyhoeddus BIPBC yn gofyn i chi gymryd rhan mewn gwerthusiad o'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron fel y gallwn asesu pa mor dda y mae'n gweithio. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan, ond byddem yn croesawu eich cefnogaeth os ydych yn fodlon gwneud hynny.

Mae croeso hefyd i famau a theuluoedd sy'n bwydo ar y fron roi adborth i ni ar y Cynllun ac ar leoliadau penodol y gallent fod wedi ymweld â nhw. Os byddwn yn derbyn unrhyw adborth, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, sy'n benodol i leoliad neu fusnes, caiff hwn ei drosglwyddo i'r sefydliad perthnasol gydag awgrym am y camau gweithredu a allai wella neu helpu i ddatblygu profiad. Sylwer: Cedwir yr hawl i dynnu busnes neu eiddo oddi ar y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron lle mae tystiolaeth i awgrymu bod y Cynllun wedi'i ddefnyddio'n amhriodol.

Wrth ymuno â’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron gallwch wneud gwahaniaeth mawr i iechyd plant yng Ngogledd Cymru!

Drwy ymuno â'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron byddwch yn codi ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron ac yn dangos ei fod yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned ehangach. Gall hyn fod yn hwb i deuluoedd deimlo'n fwy cyfforddus yn bwydo ar y fron yn gyhoeddus a helpu i ddiogelu iechyd mamau a babanod yn eich cymuned.

Mae gweld sticer y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron mewn mannau lleol yn dangos i famau sy'n bwydo ar y fron ac eraill fod eu cymuned yn gefnogol i'w dewis i fwydo ar y fron a gall helpu i ddechrau sgyrsiau a normaleiddio bwydo ar y fron.

Bydd eich busnes/sefydliad hefyd yn dangos ei fod yn gofalu am ei gwsmeriaid, a bydd hynny’n dda i chi gan y bydd teuluoedd yn dychwelyd dro ar ôl tro ac yn dod â’u ffrindiau hefyd!