Neidio i'r prif gynnwy

Atal cenhedlu ar ôl cael babi

Gall ffrwythlondeb ddychwelyd yn gyflym ar ôl genedigaeth a gallwch feichiogi cyn lleied â 21 diwrnod ar ôl genedigaeth babi, hyd yn oed cyn eich mislif cyntaf. Gallwch hefyd feichiogi os ydych chi'n bwydo ar y fron. Oni bai eich bod am feichiogi eto, mae'n bwysig defnyddio rhyw fath o ddull atal cenhedlu bob tro y byddwch yn cael rhyw ar ôl yr enedigaeth.

Er efallai na fyddwch yn teimlo'n barod i gael rhyw am gyfnod o amser ar ôl genedigaeth plentyn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai eich bod yn ystyried ail gychwyn gweithgaredd rhywiol. Mae dull atal cenhedlu a p’un ai yw'n ddiogel cael cyfathrach rywiol neu beidio yn bethau i’w hystyried. I gael cyngor ac arweiniad pellach, rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch bydwraig neu lawfeddyg os ydych wedi cael llawdriniaeth neu bwythau.

Gall cyfnod o lai na 12 mis rhwng genedigaeth a beichiogi eto fod yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael beichiogrwydd megis pwysau geni isel, rhwygo’r sach amniotig yn y groth a genedigaeth cyn-amser.

Mae sgyrsiau am ddewisiadau atal cenhedlu fel arfer yn digwydd yn fuan ar ôl genedigaeth babi, yn ystod yr ymweliadau ôl-enedigol arferol, ond efallai eich bod am gynllunio ymlaen llaw a thrafod dulliau atal cenhedlu tra byddwch yn dal i fod yn feichiog.

Gallwch hefyd siarad â'ch meddyg teulu, bydwraig, ymwelydd iechyd neu gallwch fynd i glinig cynllunio teulu.

Gallwch hefyd gael mynediad at Desogestral, y bilsen atal cenhedlu progesteron-yn-unig, drwy eich fferyllfa leol, a all werthu/ddarparu’r cyflenwad 3 mis cychwynnol i chi. Siaradwch â’ch fferyllydd lleol am fwy o gyngor.

Os hoffech chi ddechrau defnyddio dull atal cenhedlu yn syth ar ôl cael babi, mae'r opsiynau canlynol ar gael:

  • Mewnblaniad atal cenhedlu
  • Chwistrelliad
  • Pilsen fach (progestogen yn unig)
  • Condomau
  • Coil*

*Gellir gosod yr IUD a'r IUS (coiliau) ar adeg llawdriniaeth Caesaraidd neu ar ôl genedigaeth drwy'r wain. Os hoffech chi gael coil wedi ei osod yn syth ar ôl yr enedigaeth, bydd angen i chi drafod hyn ymlaen llaw. Os na chaiff yr IUD a'r IUS (coiliau) eu gosod o fewn 48 awr i'r geni, yna bydd angen i chi aros o leiaf bedair wythnos ar ôl y geni.

Mae cymryd y bilsen atal cenhedlu brys (pils brys) yn ddiogel ar ôl cael babi ond nid oes angen eu cymryd yn ystod y 21 diwrnod cyntaf ar ôl yr enedigaeth.

Pa ddulliau nad ydynt yn addas yn syth ar ôl cael babi?

  • Pilsen gyfun
  • Pats atal cenhedlu
  • Cylch gwain
  • Diaffram

Ni ddylid defnyddio dulliau atal cenhedlu cyfun (sy’n cynnwys estrogen a phrogestogen) yn ystod y tair wythnos gyntaf ar ôl y geni, oherwydd bod yna risg o ddatblygu clotiau gwaed, ac am y chwe wythnos gyntaf os ydych yn bwydo o’r fron, oherwydd gall effeithio ar eich cyflenwad llaeth. 

Os oes gennych risg uwch o ddatblygu clotiau gwaed, efallai y cewch eich cynghori i aros yn hirach cyn defnyddio dulliau atal cenhedlu cyfun, neu efallai na fyddwch yn gallu eu defnyddio o gwbl. Siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs i dderbyn cyngor pellach.

Ystyrir y diaffram yn llai effeithiol o ran atal beichiogrwydd ac nid yw'n cael ei argymell yn ystod y chwe wythnos gyntaf ar ôl y geni. Os mai hwn oedd eich dull atal cenhedlu blaenorol, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'r un diaffram ag y gwnaethoch cyn beichiogi. Bydd angen i chi weld eich darparwr gofal iechyd am asesiad i wneud yn siŵr ei fod yn addas o hyd.

Atal cenhedlu a bwydo ar y fron

Os ydych chi'n defnyddio dull hormonaidd o atal cenhedlu yna gall ychydig bach o hormon fynd i mewn i'r llaeth, ond nid yw hyn yn cael ei ystyried yn niweidiol i fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron.

Mae defnyddio dulliau atal cenhedlu tra’n bwydo ar y fron yn ddiogel. Gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer os byddwch yn defnyddio'r IUD neu'r bilsen frys sy'n cynnwys levonorgestrel.

Os byddwch yn defnyddio'r bilsen frys sy'n cynnwys ulipristal acetate (ellaOne®), ni ddylech fwydo ar y fron am saith diwrnod ar ôl ei gymryd. Dylech wasgu llaeth o'r fron a'i waredu am saith diwrnod yn dilyn cymryd yr ulipristal acetate gan nad oes astudiaeth o’r effaith ar fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron wedi'i wneud. 

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar atal cenhedlu ar ôl cael babi