Neidio i'r prif gynnwy

Arwyddion esgor

Efallai y bydd rhieni newydd yn poeni am allu gwybod fod yr esgor wedi cychwyn neu allu nodi pan fyddant wedi camsynio. Y prif arwydd fod esgor wedi cychwyn yw cyfangiadau sy'n para'n hirach ac yn cryfhau, a bydd yr amser rhyngddynt yn lleihau.

Ceir arwyddion eraill y dylid gwylio amdanynt hefyd:

  • Pan fydd plwg o fwcws o'ch serfics (ceg eich croth) yn dod o'i le.
  • Poen cefn.
  • Pan fydd toriad yn eich dyfroedd - pan fydd hi'n bryd i'ch baban gael ei eni, bydd y goden o hylif amniotig sydd o amgylch eich baban yn torri a bydd yr hylif yn gwagio trwy eich fagina. Efallai y gwnewch ei deimlo'n diferu'n araf, neu efallai bydd yr hylif dyfrllyd yn llifeirio'n ddirybudd ac ni fyddwch yn gallu ei reoli. Gall toriad yn eich dyfroedd ddigwydd wrth esgor neu cyn cychwyn esgor.
  • Ysfa i ddefnyddio'r toiled sy'n cael ei achosi gan ben y baban yn pwyso ar eich coluddyn.
  • Cyfangiadau - pan fyddwch wedi cychwyn esgor, byddwch yn teimlo cyfangiadau a ddaw yn gryfach ac yn hirach ac mewn patrwm mwy rheolaidd. Cyfangiadau y bydd yr amser rhyngddynt yn lleihau'n raddol ac sy'n para mwy na 30 eiliad yw'r unig arwydd hollol bendant o fod yn esgor.

Sut i ymdopi pan fyddwch yn cychwyn esgor

Wrth gychwyn esgor, gallwch chi:

  • Gerdded neu symud o gwmpas os byddwch yn dymuno.
  • Yfed hylifau - efallai y gwnaiff diodydd isotonig helpu i gynnal lefelau eich egni.,
  • Bwyta byrbryd os byddwch yn dymuno.
  • Rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio ac anadlu - gall eich partner geni eich helpu trwy wneud y rhain gyda chi.
  • Gofyn i'ch partner geni rwbio eich cefn.
  • Cymryd parasetamol (mae'n ddiogel gwneud hynny wrth esgor).
  • Cael bath mewn dŵr cynnes.

Pryd ddylid cysylltu â'r Uned Famolaeth

Ffoniwch yr Uned Famolaeth:

  • Os bydd toriad yn eich dyfroedd.
  • Os bydd gwaed yn dod o'r fagina.
  • Os bydd eich baban yn symud llai nag arfer.
  • Os byddwch wedi bod yn feichiog am lai na 27 wythnos ac yn credu y gallech fod wedi cychwyn esgor.
  • Os bydd 5 munud rhwng y cyfangiadau.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau ynghylch arwyddion esgor