Neidio i'r prif gynnwy

Ap Foodwise in Pregnancy

Mae gan yr ap Foodwise in Pregnancy wybodaeth ddefnyddiol ar fwyta’n dda, cadw’n actif a chyrraedd pwysau iach yn ystod beichiogrwydd. Mae chwe adran i weithio drwyddynt yn eich amser eich hun sydd hefyd yn cynnwys gemau rhyngweithiol, cwisiau ac offer.

Wedi’i ddatblygu gan Weithwyr Proffesiynol GIG Cymru y gellir ymddiried ynddynt, mae’r Ap Foodwise in Pregnancy yn cynnwys:

  • Awgrymiadau a chyngor ar sut i gyflawni deiet iach
  • Syniadau ymarferol ar gyfer cadw’n actif
  • Ryseitiau, awgrymiadau siopa a chynllunydd prydau
  • Ymarferion cam wrth gam sy’n ddelfrydol ar gyfer beichiogrwydd.

Gellir lawrlwytho’r Ap am ddim o Google Play neu Apple Store.