Mae fêpio yn fwy diogel nac ysmygu ond nid yw heb ei beryglon
Prin yw’r dystiolaeth am effeithiau fêpio ar iechyd, ac nid ydym yn gwybod beth yw’r risgiau o fêpio yn y tymor hwy. Gall fêpio arwain at ddibyniaeth ar nicotîn, sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl a lles.
Gall oedolion sy’n ysmygu leihau’r risg o niwed o ysmygu trwy amnewid yn llwyr i fêpio, ond nid yw fêpio yn cael ei argymell ar gyfer pobl nad ydynt yn ysmygu. Ni ddylai plant a phobl ifanc ddechrau fêpio.
Gall unrhyw un sydd eisiau stopio ysmygu tybaco gael cymorth ar sail un i un gan gynghorydd stopio ysmygu personol, yn ogystal â meddyginiaethau stopio ysmygu am ddim gan Helpa Fi i Stopio.
Gall Helpa Fi i Stopio hefyd roi cyngor a chymorth i bobl sy’n dymuno rhoi’r gorau i fêpio. Cysylltwch â’r llinell gymorth genedlaethol ar 0800 085 2219 am fwy o wybodaeth.
Nid yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn fêpio. Fodd bynnag, dangosodd data diweddar, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, bod bron i 1 disgybl ym mhob 6 disgybl Blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio fêpiau yn rheolaidd. Dangosodd hefyd bod mwy na 45 y cant o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêpio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu canllaw ar fêpio ar gyfer rhieni, gofalwyr, athrawon a phobl eraill sy’n gweithio gyda phlant oed uwchradd yng Nghymru. Mae eu canllaw yn cynnwys llawer o awgrymiadau ar gyfer sut i adnabod arwyddion posibl o fêpio, a sut i ddechrau sgwrs amdano.
Mae niferoedd cynyddol o ddyfeisiadau fêpio anghyfreithlon ar werth nad ydynt yn bodloni’r safonau ansawdd a diogelwch llym yn y DU.
Gall y dyfeisiadau hyn fod yn arbennig o beryglus gan y canfuwyd bod rhai yn cynnwys lefelau uchel o nicotîn a metalau peryglus megis plwm. Mae eraill yn cael eu labelu fel rhai heb nicotîn hyd yn oed pan fyddant yn cynnwys nicotîn.
Mae’n anghyfreithlon gwerthu dyfeisiadau fêpio sy’n cynnwys nicotîn i unrhyw un sydd o dan 18 mlwydd oed, neu i oedolion eu prynu ar ran unrhyw un sydd o dan 18 mlwydd oed.
Gellir riportio pobl sy’n gwerthu neu’r amheuir eu bod yn gwerthu fêpiau neu dybaco anghyfreithlon a phobl sy’n gwerthu neu’r amheuir eu bod yn gwerthu fêpiau a chynhyrchion tybaco i rai sydd o dan 18 mlwydd oed, yn ddienw i Dim Esgus. Byth.