Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i deuluoedd a phlant

Beichiogrwydd, Genedigaeth a Bwydo Babanod

Mae'n debygol y bydd gennych lawer o gwestiynau am eich siwrnai gynenedigol ac ôl-enedigol a sut y gallai COVID-19 effeithio arni. Cofiwch geisio mwynhau’r siwrnai gymaint ag y byddech chi o dan amgylchiadau arferol a gallwch fod yn dawel eich meddwl bod llawer o gyngor, gwybodaeth a chymorth ar gael i chi yn ystod y cyfnod hwn.

Er mwyn edrych ar ôl eich hun a'ch babi yn y modd gorau posibl, dyma’r pethau allweddol i'w cofio;

  • Dilynwch holl ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth i leihau eich risg o gael eich heintio gan y feirws: Canllawiau'r Llywodraeth ar gyfer pobl sy'n agored i niwed
  • Os ydych chi’n meddwl bod gennych symptomau COVID-19, dylech ddefnyddio gwasanaeth ar-lein NHS 111 i gael gwybodaeth: NHS 111 ar-lein
  • Parhewch i fynychu’ch holl apwyntiadau yn unol â chyngor eich gwasanaethau mamolaeth: cyngor COVID-19 i gleifion (sgroliwch i lawr i’r adran ‘Mamolaeth’)
  • Er mwyn cael yr amddiffyniad gorau, mae'n hanfodol ein bod yn derbyn ein brechiadau mewn da bryd - mae hyn yn parhau i fod yn wir yn ystod y pandemig COVID-19 cyfredol: Imiwneiddio
  • Gallwch chi fwydo eich babi ar y fron o hyd. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i awgrymu y gellir cario'r feirws neu ei drosglwyddo mewn llaeth o'r fron bwydo ar y fron yn ystod COVID-19
  • Os ydych chi’n dewis bwydo eich babi â fformiwla babanod neu laeth wedi’i dynnu, argymhellir eich bod yn dilyn ac yn cadw at y canllawiau sterileiddio: Gwybodaeth sterileiddio'r GIG. Gweler yma am gyngor ar laeth fformiwla yn ystod pandemig COVID-19: Llaeth ar gyfer eich babi yn ystod COVID-19
  • Ar ôl i chi ddod â'ch babi adref, dylai pawb yn y tŷ ddilyn yr holl ganllawiau ar hylendid a dylech osgoi gwahodd unrhyw un arall i’r tŷ: COVID-19 a beichiogrwydd
  • Peidiwch â gohirio ceisio cyngor meddygol os oes gennych bryderon am iechyd eich babi yn ystod y pandemig. Ceisiwch gyngor meddygol os oes gan eich babi dymheredd uchel, syrthni, anniddigrwydd, yn bwydo’n wael, neu unrhyw symptomau eraill y gallai fod gennych bryderon yn eu cylch
  • Cofiwch fod eich iechyd meddwl a’ch llesiant yn bwysig iawn yn ystod y cyfnod hwn.  I gael gwybodaeth gyffredinol am iechyd meddwl cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd a'r wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 a beichiogrwydd, gweler gwefan Cynghrair Meddwl y Mamau a gwefan Tommy's. 

Cefnogi plant

Mae’r achosion o COVID-19 wedi ein taro’n galed, mae cefnogi plant a phobl ifanc yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. Dyma ychydig o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth a allai helpu i wynebu'r sefyllfa hon fel teulu.

  • Llyfr byr yw COVIBOOK a grëwyd i gefnogi a thawelu meddwl plant, o dan 7 oed, ynghylch COVID-19. Mae’r llyfr yn gwahodd teuluoedd i drafod yr ystod lawn o emosiynau sy’n codi o’r sefyllfa bresennol. Hyd yn oed os ydych wedi cadw’ch plentyn bach draw oddi wrth y newyddion am COVID-19 ar y cyfryngau neu oddi wrth glywed sgyrsiau oedolion, maen nhw’n siŵr bod cwestiynau ganddynt. Yr argymhelliad yw argraffu'r deunydd hwn fel y gall plant ysgrifennu a thynnu lluniau arno
  • Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yng Ngogledd Cymru wedi datblygu pecyn adnoddau i rieni a gofalwyr: pecyn adnoddau i bobl ifanc, a chasgliad mawr o ganllawiau hunangymorth y mae modd eu lawrlwytho: Adnoddau CAMHS y mae modd eu lawrlwytho
  • Mae FACE COVID – a ddatblygwyd gan Dr Russ Harris (awdur The Happiness Trap) yn set o gamau ymarferol er mwyn ymateb yn effeithiol i argyfwng coronafeirws, gan ddefnyddio egwyddorion Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT)

Gweithgareddau y gallwch chi eu gwneud fel teulu

Mae rhieni a gofalwyr yn wynebu cyfnod anarferol oherwydd newidiadau i ddysgu ac addysgu. Dyma rai syniadau ac adnoddau i'ch cefnogi chi a'ch teulu yn ystod y cyfnod hwn:

Gwybodaeth bellach i'ch cefnogi chi a'ch teulu yn ystod y cyfnod hwn