Mae Ymgynghoriad Cynlluniau Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth iechyd sydd fwyaf angen cymorth ac sydd â’r nod o fynd i’r afael ag eiddilwch, gwella safonau, neu gwtogi amseroedd aros ar gyfer pobl sydd angen diagnosis a thriniaeth.
Bydd y newidiadau y maent yn dymuno eu gwneud yn seiliedig ar les pennaf pobl gorllewin Cymru a'u profiadau fel cleifion.
Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i wefan Hywel Dda: Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol