Mae rhaglen Camu i Waith (Step into Work) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn darparu rhaglen systematig o gyfleoedd gwaith i amrywiaeth o bobl mewn partneriaeth â mentrau cymdeithasol. Rhoddir siawns i weithio mewn grwpiau i deuluoedd di-waith, rhai a fu’n ddi-waith dros gyfnod hir, prosiectau cymunedol, taclo tlodi mewn gwaith, Agoriad, Remploy, MONCF, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN), Rhai nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant(NEETS), Go Wales, Myfyrwyr Addysg Uwch (HE), Myfyrwyr Addysg Bellach (FE). Hyd yma mae’r rhai a gymrodd ran yn rhaglen BIPBC wedi llwyddo i ennill cyflogaeth mewn dros 200 o swyddi amrywiol, gan gynnwys Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Gwaith Domestig, Gwaith Porter, Arlwyo, Gwaith Gweinyddol a Gwaith Labordy.