Neidio i'r prif gynnwy

Hybiau Cymorth Cymunedol

Mae Hybiau Cymorth Cymunedol yn siop-un-stop am wybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol sydd ar gael i'r holl drigolion. 

Mae nifer o Hybiau Cymorth Cymunedol wedi'u lleoli ar draws Gogledd Cymru lle mae dros 100 o sefydliadau cymunedol gwahanol yn dod at ei gilydd i ddarparu ystod eang o wasanaethau.

Mae gwasanaethau Hybiau Cymorth Cymunedol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Man Casglu Profion Dyfais Llif Unffordd (LFD)
  • Bwyd (naill ai banc bwyd neu/a phrydau wedi'u coginio/dosbarthiadau)
  • Cymorth llety/tenantiaeth
  • Cyngor ar reoli arian/dyled/Undeb Credyd/budd-daliadau
  • Cyngor cyfreithiol (materion teulu, cyflogaeth, sifil)
  • Cymorth tanwydd/gwresogi
  • Nwyddau tŷ (gan gynnwys nwyddau gwynion)
  • Cymorth i deuluoedd
  • Cymorth iechyd meddwl a chorfforol
  • Ysbyty i'r cartref
  • Cymorth cam-drin domestig a cham-drin sylweddau
  • Cymorth Rhywedd
  • Cynhwysiant digidol
  • Cymorth amlieithog
  • Cymorth caethwasiaeth fodern ac ymelwa
  • Mynediad at gyflogaeth/cynnal cyflogaeth
  • Rhagnodi Cymdeithasol

Manteisio ar wasanaethau Hybiau Cymorth Cymunedol

I fanteisio ar y gwasanaethau a gynigir yn yr hybiau, gallwch:

  • Gallwch gyfeirio chi'ch hun neu rywun rydych yn ei adnabod trwy ffonio neu e-bostio'r hwb. Gallwch hefyd ddefnyddio ein ffurflen cyfeirio at Hybiau Cymorth Cymunedol ar-lein. 
  • Galw heibio hwb yn ystod oriau agor (naill ai fel y sawl sy'n cyfeirio neu fel rhywun sydd am fanteisio ar y gwasanaeth)

Lleoliadau Hybiau Cymorth Cymunedol

Mae rhestr o'r lleoliadau, amseroedd agor a manylion cyswllt ar gyfer Hybiau Cymorth Cymunedol ar draws Gogledd Cymru ar gael isod. Gallwch hefyd fanteisio ar y gwasanaethau ar-lein, trwy e-bost, neges destun neu'r ffôn. 

Mae'r Hybiau Cymorth Cymunedol bob amser yn hapus i weithio gyda sefydliadau partner eraill. Os ydych chi'n adnabod partner a hoffai weithio gyda'n hybiau neu a hoffai ddarganfod mwy o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Goodier, Rheolwr Arweiniol: Amddiffyn - BCUHB yn lisa.goodier@wales.nhs.uk neu 07525 726074.