Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

24/05/22

Diwrnod olaf pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn

Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, bydd y gwaith o gyflawni rhaglen pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn caniatáu i'r sawl sy'n cael pigiad atgyfnerthu yn ystod y gwanwyn i gael digon o amser rhwng dosys os bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn ystyried eu bod yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn ystod hydref 2022.

I sicrhau y bydd digon o amser i bobl allu mynychu apwyntiadau i gael eu brechu, mae'r sawl sy'n troi'n 75 oed ar 30 Mehefin neu cyn hynny, yn gymwys i gael eu brechu unrhyw bryd yn ystod rhaglen y gwanwyn, os oes o leiaf tri mis wedi mynd heibio ers eu dos ddiwethaf. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn 74 mlwydd oed ar ddiwrnod y brechiad, ond maent yn gymwys oherwydd byddant yn troi'n 75 oed cyn diwrnod olaf y rhaglen.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â rhaglen pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn ar ein gwefan yma.

Dosau cyntaf ar gyfer plant 5-11 mlwydd oed

Er ein bod wedi canolbwyntio ar roi pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn i'r sawl dros 75 oed, rydym ni newydd ymestyn y cynnig agored i'r sawl sydd yn 5-11 oed. Gan fod y cam hwn bellach yn dod i ben, byddwn yn ysgrifennu yn yr wythnosau nesaf at rieni a gwarcheidwaid y sawl sydd yn 5-11 oed, gan gynnig apwyntiad penodol iddyn nhw.

Bydd yr apwyntiadau hyn yn digwydd yn ystod gwyliau'r haf hyd nes 31 Awst, cyn i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol.

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn i blant 5-11 mlwydd oed er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag tonnau posibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â bwrw ymlaen â brechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i gefnogi hyn.

Rydym yn deall y gallai rhai plant ifanc fod yn bryderus ynglŷn â dod i leoliad anghyfarwydd i gael eu brechu. Mae ein clinigau plant mewn mannau tawel a bydd ein staff profiadol yn cymryd eu hamser i gefnogi'r plant a'u gwneud yn gyffyrddus cyn iddyn nhw gael eu pigiad.

Gellir trefnu apwyntiadau neu newid amseroedd apwyntiadau drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am ac 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Grwpiau oedrannau eraill - prif ddosys a dosys atgyfnerthu

Er ein bod yn parhau i roi rhaglen frechu'r gwanwyn ar waith, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un y mae arnynt angen prif ddos (y gyntaf, yr ail neu'r drydedd) neu bigiad atgyfnerthu'r hydref i gael eu brechu. Er mwyn archebu eich pigiad COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan yma.

Brechiad COVID-19 yn ystod beichiogrwydd

Mae merched sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron yn cael eu hannog i gael y brechlyn COVID-19 os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny.

Nid oes unrhyw risgiau hysbys ynglŷn â rhoi brechlynnau COVID-19 yn ystod beichiogrwydd neu wrth fwydo ar y fron.  Felly, nid oes unrhyw reswm i gredu bod effeithiau andwyol brechlynnau COVID-19 yn wahanol i ferched beichiog o'u cymharu â merched nad ydynt yn feichiog.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan yma

Er mwyn archebu eich pigiad COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.