Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

29/12/21

Gan Dr Nick Lyons – Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol

Dros y pythefnos diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n dod atom i dderbyn eu dos cyntaf a’u hail ddos o'r brechlyn rhag COVID-19 a nifer calonogol iawn o bigiadau atgyfnerthu.

Hyd yma, rydym wedi rhoi mwy na 360,000 o bigiadau atgyfnerthu, gan gynnig amddiffyniad pwysig ychwanegol i 72 y cant o'r boblogaeth gymwys.

Er gwaethaf y lefelau calonogol iawn hyn, mae rhyw 100,000 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc, nad ydynt wedi dod atom eto.

Mae pedwar rheswm pwysig iawn pam y dylai pobl ddod atom i dderbyn eu brechlyn COVID-19 yn ddi-oed:

  1. I helpu i osgoi'r angen am gyfyngiadau pellach.

Derbyn eich pigiad cyntaf, eich ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf yw'r ffordd orau o osgoi dychwelyd at gyfyngiadau pellach ar ein bywydau o ddydd i ddydd - gan amddiffyn yr economi leol, eich rhyddid, eich addysg a'ch swyddi

  1. I Ddiogelu eich hun

Mae ymchwil yn dangos bod cael eich brechu'n lleihau eich risg o ddal COVID-19 neu o'i ledaenu ynghyd â lleihau'r risg yn sylweddol y byddwch yn ddifrifol wael gyda'r firws. Bydd brechlyn COVID-19 hefyd yn eich amddiffyn rhag effeithiau hirdymor gwanychol COVID-Hir - sy'n gallu para am fisoedd

  1. I amddiffyn anwyliaid, ffrindiau a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed oherwydd heintiau

Peidiwch â chymryd y newyddion bod Omicron yn fath llai difrifol o'r firws yn ganiataol. Gan ei fod yn trosglwyddo'n haws o lawer nag amrywiolion Alpha neu Delta, bydd yn dod o hyd i'r rhai sydd heb eu brechu neu'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach - gyda chanlyniadau a allai fod yn ddifrifol

  1. I amddiffyn y GIG

Gallai hyd yn oed gynnydd bach yn niferoedd derbyniadau COVID-19, ynghyd â'r cyfraddau uchel o salwch staff sy'n gysylltiedig ag Omicron yr ydym yn disgwyl eu gweld, gael effaith ddifrifol ar ein gallu i ddarparu gofal wedi'i gynllunio a gofal brys dros yr wythnosau sydd i ddod. Gwnewch eich rhan chi i arafu lledaeniad y firws trwy dderbyn eich brechlyn rhag COVID-19

Cofiwch, gall gymryd hyd at bythefnos i'ch corff fagu imwinedd yn dilyn cael eich brechlyn rhag COVID-19. Rydym yn wynebu'r posibilrwydd o weld ton enfawr o achosion Omicron erbyn canol mis Ionawr, felly rwyf yn eich annog i ddod atom cyn gynted â phosibl. Mae gennym filoedd o apwyntiadau ar gael rhwng nawr a diwedd y flwyddyn.

Sut i dderbyn eich brechlyn rhag COVID-19

Erbyn hyn, gallwch alw heibio unrhyw rai o'n canolfannau brechu rhag COVID-19 i dderbyn eich brechlyn cyntaf, eich ail frechlyn neu'r brechlyn atgyfnerthu, ond bydd trefnu apwyntiad ar-lein yn helpu i osgoi ciw hir.

I drefnu apwyntiad ar-lein - ewch i'n Gwasanaeth Trefnu Apwyntiadau COVID-19 Ar-lein

Cliciwch yma i gael manylion am glinigau galw heibio