Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr gan Lywodraeth Cymru, mae angen i ni roi rhyw 215,000 o frechiadau COVID-19 ychwanegol mewn 18 diwrnod yn unig.

Mae'r logisteg sydd ynghlwm wrth fwy na threblu ein cyfradd frechu bresennol yn hynod heriol, ond rydym yn hyderus y gallwn sicrhau bod pigiadau atgyfnerthu ar gael i'r holl oedolion cymwys yng Ngogledd Cymru erbyn 31 Rhagfyr.

Rydym yn gweithio'n hynod galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod modd i hyn ddigwydd - ond mae arnom angen amser i roi'r holl hanfodion yn eu lle.

Dros yr wythnos nesaf, bydd cannoedd o staff a gwirfoddolwyr ychwanegol yn ymuno â'n hymdrech frechu.  Bydd hyn yn caniatáu cynyddu'r capasiti yn ein clinigau brechu presennol ac iddynt fod ar agor yn hwyrach. Caiff clinigau ychwanegol eu cyflwyno hefyd (gan gynnwys rhai galw heibio) a bydd llawer iawn mwy o feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn dechrau cynnig pigiadau atgyfnerthu.

Sut i gael eich pigiad atgyfnerthu

Er ein bod yn dal i weithio ar rai o'r manylion, dyma sut y gall pobl ddisgwyl manteisio ar eu brechlyn atgyfnerthu:
 

  • Os nad ydych wedi cael gwahoddiad eto, bydd modd i chi drefnu apwyntiad ar-lein yn fuan neu i fynd i glinig galw heibio (bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law). Efallai y caiff rhai pobl eu gwahodd yn uniongyrchol gan eu meddygfa neu eu fferyllfa gymunedol - ond rydym yn erfyn ar bobl i beidio â ffonio i holi am apwyntiadau ar hyn o bryd.
  • Os oes gennych apwyntiad ym mis Rhagfyr eisoes, gofynnwn i chi gadw ato. Peidiwch â chysylltu â ni i'w aildrefnu gan fod hyn yn arafu ein hymdrechion i amddiffyn eraill.
  • Os ydych eisoes wedi cael gwahoddiad i apwyntiad ym mis Ionawr, byddwn yn cysylltu â chi'n fuan i'ch gwahodd i drefnu apwyntiad ar-lein yn ystod mis Rhagfyr.
  • Os ydych yn gaeth i'r tŷ, nid oes angen cysylltu â ni. Mae'ch manylion gennym eisoes ac rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl i'ch cyrraedd cyn diwedd mis Rhagfyr.

Sut i fanteisio ar ddos cyntaf neu ail ddos ar gyfer yr holl grwpiau oedran cymwys

 

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddod atom am ddos cyntaf o'r brechlyn rhag COVID-19 - hyd yn oed os gwnaethoch ei wrthod pan gafodd ei gynnig yn y lle cyntaf.

Yn fuan, bydd modd i chi drefnu dosiau cyntaf ac ail ddosiau ar-lein.

Bydd cyfleoedd i alw heibio hefyd a byddwn yn cyhoeddi manylion am y rhain ar-lein ac yn y cyfryngau lleol lle bynnag y bo'n bosibl.
Byddwn yn rhoi diweddariad pellach yfory. Peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa i geisio trefnu apwyntiad gan na fyddwn yn gallu trefnu apwyntiad i chi'n gynt fel hynny.

Diolch am eich amynedd, eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth.