Mae'r wythnos hon yn nodi 12 mis ers i ni ddechrau ein hymgyrch frechu rhag COVID-19.
Yn y cyfnod hwnnw, rydym wedi rhoi dros 1.3m o bigiadau rhag COVID-19 o 353 o leoliadau gwahanol, gan gynnwys dros hanner miliwn o ddosiau cyntaf ac ail ddosiau a 222,775 o bigiadau atgyfnerthu.
Mae hynny'n cynrychioli pigiad a allai achub bywyd rhywun yn cael ei roi bob 12 eiliad dros gyfnod o flwyddyn gyfan.
Y gwir amdani yw na fyddem wedi gallu amddiffyn cynifer o bobl mor gyflym heb gefnogaeth anhygoel ein staff, gwirfoddolwyr, partneriaid a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Yn dilyn cyhoeddiadau yn ddiweddar gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym bellach yn wynebu'r her enfawr sydd ynghlwm wrth ddyblu nifer y bobl yr ydym yn eu brechu bob wythnos - o'n cyfradd bresennol o ryw 25,000 - 30,000 bob wythnos i 50,000 – 60,000 erbyn canol mis Ionawr.
Mae ein timau'n gweithio'n hynod galed i ddod o hyd i'r brechwyr, staff cymorth a'r cyfleusterau ychwanegol er mwyn sicrhau bod modd gwireddu hyn.
Rydym yn hyderus y gallwn fodloni targed Llywodraeth Cymru i gynnig y brechlyn atgyfnerthu i bob un o'r rhai sy'n gymwys i'w dderbyn erbyn diwedd mis Ionawr.
Rydym yn parhau i wahodd pobl trwy lythyr a/neu neges destun yn nhrefn gronolegol o leiaf dri mis ar ôl dyddiad rhoi'r ail ddos.
Os ydych o dan 65 oed, byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â ffonio'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa - cewch eich gwahodd cyn gynted ag y daw eich tro chi.
Os ydych yn 65 oed neu’n hŷn ac nad ydych wedi derbyn llythyr apwyntiad eto, hoffem roi sicrwydd i chi nad ydym wedi anghofio amdanoch. Bydd y rhan fwyaf o’r rhai dros 65 oed nad ydynt wedi derbyn apwyntiad eto yn cael eu gwahodd trwy lythyr a/neu neges destun cyn diwedd y mis. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw bryderon, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 7pm ac o ddydd Sadwrn i ddydd Sul, rhwng 9am a 2pm.
Erbyn canol mis Ionawr, bydd 90 y cant o'r oedolion cymwys dros 40 oed wedi derbyn gwahoddiad i apwyntiad. Erbyn diwedd mis Ionawr, bydd yr holl oedolion cymwys dros 18 oed wedi derbyn cynnig apwyntiad.
Unwaith y byddwch yn derbyn apwyntiad, dylech ei flaenoriaethu fel unrhyw apwyntiad brys arall yn yr ysbyty. Dylech gysylltu â ni i aildrefnu'r apwyntiad dim ond os nad oes modd osgoi hynny, gan y gallai gymryd cryn amser i gynnig dyddiad arall i chi.
Rydym hefyd yn galw ar gyflogwyr i ganiatáu i staff gymryd amser i ffwrdd i fynd i apwyntiadau brechu rhag COVID-19. Gall aildrefnu apwyntiadau i bobl nad ydynt yn gallu cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith arafu ein hymdrechion yn sylweddol i amddiffyn pobl ac i wneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau.
Mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i Ddiogelu Cymru y gaeaf hwn ac mae gan gyflogwyr ar draws y rhanbarth rôl bwysig i'w chyflawni o ran hyn o beth.
Rydym wedi cael ymateb aruthrol i'n hapêl yn ddiweddar am frechwyr, staff cymorth a chyfleusterau ychwanegol.
Dros yr wythnosau sydd i ddod, bydd llawer o Bractisau Meddygon Teulu a gymerodd ran yn y broses gyflwyno gychwynnol yn dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu nifer o fferyllfeydd cymunedol i'r rhaglen - yn cynnwys 25 cangen o Fferyllfa Rowlands.
Bydd hyn yn gwella mynediad at y brechlyn i bobl sy'n gorfod teithio'n bell ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd safle brechu.
Yn fuan, bydd ein safleoedd brechu rhag COVID-19 presennol yn dechrau gweithredu dros oriau hirach, wrth i staff sydd newydd eu recriwtio gael eu lleoli yn dilyn hyfforddiant cynhwysfawr.
Mae arnom angen mwy o staff a gwirfoddolwyr er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r her enfawr sydd o'n blaen.
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio i'r rolau canlynol, ac mae oriau rhan-amser a banc (pan fo angen) ar gael mewn clinigau ar draws Gogledd Cymru:
Mae pobl o gefndiroedd anghlinigol yn cael eu hannog i wneud cais am rolau Imiwneiddwyr Heb Gofrestru a Gweinyddwyr Brechu. Nid oes angen profiad blaenorol gan y caiff hyfforddiant cynhwysfawr ei roi.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rolau uchod, ewch i wefan NHS jobs.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm anhygoel o wirfoddolwyr brechu rhag COVID-19, anfonwch e-bost at bcuhb.publicvolunteers@wales.nhs.uk
Dros yr wythnosau sydd i ddod, caiff gwasanaeth apwyntiad trwy neges destun ddwyffordd ei gyflwyno.
Bydd y gwasanaeth newydd, a ddatblygwyd gan ein cydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn caniatáu i bobl sy'n cael gwahoddiad i apwyntiad brechu rhag COVID-19 ar ffurf neges destun i aildrefnu'r apwyntiad trwy neges destun - os na allant fynd i'w hapwyntiad gwreiddiol.
Er bod y datblygiad newydd hwn i'w groesawu, byddem yn annog pobl i gadw at eu hapwyntiad gwreiddiol lle bynnag bo'n bosibl, ac i aildrefnu eu hapwyntiad dim ond pan nad oes modd osgoi hynny.