Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

24/11/21

Gan Ffion Johnstone - Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin

Mae ein timau bellach wedi rhoi mwy na 1,230,000 o frechlynnau rhag COVID-19, gan gynnwys 164,338 o bigiadau atgyfnerthu.

O heddiw, mae 69 y cant o'r rhai sy'n gymwys wedi derbyn eu pigiad atgyfnerthu, ac mae 17 y cant arall wedi trefnu apwyntiad ar gyfer eu pigiad. Mae mwy o bobl yn gymwys bob dydd wrth iddynt groesi'r cyfnod cymwys gofynnol o chwe mis ers iddynt dderbyn eu hail ddos.

Os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio ers eich ail ddos, nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa gan y byddwn yn eich gwahodd chi fel mater o drefn cyn gynted ag y daw eich tro chi.

Hyd yma, rydym wedi rhoi ychydig dros 22 y cant o'r holl frechlynnau atgyfnerthu yng Nghymru. Mae hyn yn unol â'n cyfran o'r boblogaeth gymwys. 

Cofiwch fod atebion i Gwestiynau Cyffredin ar gael ar ein gwefan yma.

Amddiffyn ein staff a'n gwirfoddolwyr rhag camdriniaeth

Dros yr wythnosau diwethaf, mae ein staff brechu a'n gwirfoddolwyr diwyd wedi gweld cynnydd mewn camdriniaeth gan bobl sy'n mynd i'n safleoedd brechu.

Ni ddylai neb ddisgwyl dod i'r gwaith ac i gael ei gam-drin, yn enwedig ein staff brechu a'n gwirfoddolwyr, sy'n gweithio i gadw pobl yn ddiogel yn ystod pandemig.

Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gweithio'n hynod galed er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn eu brechiad mor gyflym a diogel â phosibl. Byddwch yn amyneddgar gyda nhw gan eu trin gyda chwrteisi a pharch.

Byddem hefyd yn hoffi atgoffa pobl na fyddwn yn goddef trais, ymosodedd neu gamdriniaeth tuag at ein staff. Efallai y gofynnir i unrhyw un sy'n peri braw neu ofid i eraill yn unrhyw un o'n canolfannau brechu i adael, neu mewn achosion mwy difrifol, byddwn yn cysylltu â'r heddlu.

Cyflymu'r broses o gynnig brechiadau rhag COVID-19

Fel yr esboniwyd mewn diweddariadau blaenorol, mae ein gweithlu i roi pigiadau COVID-19 wedi lleihau o ryw 50 y cant, o gymharu â'r broses gyflwyno ar y dechrau.

Mae ein timau'n gweithio mor gyflym a diogel â phosibl gan roi mwy na 3,200 o frechlynnau bob dydd.

Rydym wrthi'n ystyried ystod o fesurau i gyflymu'r broses gyflwyno.

Mae ein hymgyrch recriwtio dwys yn parhau. Unwaith y bydd staff newydd, wedi'u hyfforddi'n llawn yn cael eu lleoli ar ein safleoedd presennol, bydd modd i ni gynyddu nifer y bobl y gellir eu brechu o ddydd i ddydd.

Rydym hefyd yn gobeithio croesawu mwy o fferyllfeydd cymunedol i'r broses gyflwyno. Mae i hyn y potensial o wella mynediad at y brechlyn ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio'n bell i gyrraedd safle brechu.

Clinigau galw heibio i'r rhai rhwng 12 a 15 oed

Mae rhestr gyfredol o glinigau galw heibio er mwyn caniatáu i'r rhai rhwng 12 a 15 oed dderbyn dos cyntaf ar gael ar ein gwefan yma.

Cofiwch, hyd yn oed os ydych wedi dal COVID-19 yn flaenorol, argymhellir yr un fath y dylech ddod atom i dderbyn eich dos cyntaf.

Yn ddelfrydol, dylai'r sawl sy'n iau na 18 oed sydd wedi dal y firws yn ddiweddar aros am 12 wythnos nes cael eu brechiad, oni bai eu bod mewn grŵp sydd â risg fwy o salwch difrifol.

Rydym yn awyddus i bobl ifanc wneud penderfyniad cytbwys am frechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Man cychwyn da yw Canllaw Brechiadau COVID-19 i Blant a Phobl Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd ar gael ar ein gwefan.