Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

17/11/21

Gan Ffion Johnstone - Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin

Mae ein timau diwyd wedi rhoi 1.18 miliwn o frechlynnau erbyn hyn ers i'r rhaglen frechu ddechrau, gan gynnwys 141,446 o bigiadau atgyfnerthu.

Rydym yn parhau i roi brechlynnau mor gyflym a diogel â phosibl, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni fynd i'r afael â'r her logistaidd enfawr hon.

Caiff apwyntiadau ar gyfer y pigiad atgyfnerthu eu hanfon trwy'r post yn nhrefn gronolegol o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad rhoi'r ail ddos, nid o'r rhai hynaf i'r rhai ieuengaf, o reidrwydd.

Cofiwch mai chwe mis yw'r isafswm cyfnod cymwys rhwng derbyn yr ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu. Os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio ers eich ail ddos, nid ydych 'ar ei hôl hi' ac nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa gan y byddwn yn eich gwahodd chi fel mater o drefn cyn gynted ag y daw eich tro chi.

Cofiwch fod atebion i Gwestiynau Cyffredin ar gael ar ein gwefan yma.

Ail ddos i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed

Ddydd Llun, gwnaeth y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) argymell y dylai pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed gael cynnig ail ddos o'r brechlyn rhag COVID-19.

Caiff ail ddosiau eu cynnig o leiaf 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf, oni bai bod unigolyn ifanc wedi dal haint COVID-19 ers ei ddos cyntaf. Os felly, yn ddelfrydol, dylai aros 12 wythnos ar ôl i'w symptomau ymddangos (neu ddyddiad ei brawf - os nad oedd ganddo symptomau). Mae rhagor o wybodaeth am y newid hwn mewn arweiniad gan JCVI isod.

Nid oes angen cysylltu â ni i drefnu ail ddos gan y byddwn yn gwahodd y sawl sy'n gymwys fel mater o drefn trwy lythyr ar yr adeg briodol.

Ymestyn y cyfnod rhwng dal haint COVID-19 a brechu i unigolion o dan 18 oed nad oes ganddynt unrhyw ffactorau risg

Yn achos pobl iau sydd wedi dal COVID-19 yn ddiweddar, mae'r amddiffyniad yn debygol o fod yn uchel dros gyfnod o fisoedd, a gallai'r brechiad wella'r tebygolrwydd o sgil-effeithiau.

Felly mae JCVI wedi cynghori, yn dilyn haint COVID-19, y dylid gohirio brechu o ran unrhyw ddos yn ddelfrydol tan o leiaf 12 wythnos o'r adeg y dechreuodd y symptomau (neu ddyddiad eu prawf os nad oedd ganddynt symptomau). Mae'r arweiniad newydd hwn yn berthnasol i'r holl blant a phobl ifanc o dan 18 oed nad ydynt mewn grwpiau sydd mewn perygl.

Yn fyr, dylai'r holl unigolion sy'n iau na 18 oed nad ydynt mewn grwpiau sydd mewn perygl dderbyn brechiadau 12 wythnos yn dilyn unrhyw haint COVID-19, neu 12 wythnos yn dilyn ei ddos diwethaf o'r brechlyn - pa un bynnag sydd fwyaf diweddar.

Yn ddelfrydol, dylai unigolion iach o dan 18 oed nad ydynt mewn grŵp sydd mewn perygl ein ffonio i aildrefnu dos cyntaf neu ail ddos, os ydynt wedi cael prawf positif o fewn y 12 wythnos diwethaf,  a'u bod eisoes wedi derbyn llythyr apwyntiad trwy'r post.

I aildrefnu, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 ar rif ffôn: 03000 840004. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8am tan 7pm ac o ddydd Sadwrn hyd at ddydd Sul, rhwng 9am a 2pm.

Mae arweiniad cenedlaethol pellach ar y mater hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a chaiff ei rannu ar ein gwefan cyn gynted ag y bydd ar gael.

Pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y sawl rhwng 40 a 49 oed

Mae JCVI wedi argymell hefyd y dylid ymestyn brechiadau atgyfnerthu i unigolion sydd rhwng 40 a 49 oed, ar yr amod bod o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers iddynt dderbyn eu hail ddos.

Oherwydd yr isafswm cyfnod hwn o chwe mis, ni fydd y rhan fwyaf o'r sawl rhwng 40 a 49 oed yn gymwys tan o leiaf ganol mis Ionawr.

Nid oes angen cysylltu â ni i drefnu apwyntiad, gan y byddwn yn eich gwahodd fel mater o drefn cyn gynted ag y daw eich tro chi.

Rydym yn parhau i wahodd pobl yn nhrefn gronolegol o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad rhoi'r ail ddos, nid o'r rhai hynaf i'r rhai ieuengaf, o reidrwydd.

Clinigau galw heibio i'r rhai rhwng 12 a 15 oed

Mae rhestr gyfredol o glinigau galw heibio er mwyn caniatáu i'r rhai rhwng 12 a 15 oed dderbyn dos cyntaf ar gael ar ein gwefan yma.

Recriwtio

Fel y soniwyd yn ein diweddariad yr wythnos ddiwethaf, mae ein gweithlu i roi pigiadau wedi'i leihau o ryw 50 y cant o gymharu â'r broses gyflwyno ar y dechrau. I fynd i'r afael â hyn, rydym yn ceisio recriwtio aelodau newydd o staff yn barhaus.

Mae dros 1,300 wedi ymateb i'n hymgyrch recriwtio ddiweddaraf ac wedi dangos diddordeb mewn ymuno â'n timau brechu. Edrychwn ymlaen at groesawu ymgeiswyr addas i'n timau brechu cyn gynted â phosibl.