Ers dechrau'r rhaglen pigiadau atgyfnerthu yng nghanol mis Medi, mae ein timau brechu gweithgar wedi rhoi dros 104,000 o bigiadau atgyfnerthu, yn ogystal â bron i 25,000 dos cyntaf, ail ddos a thrydydd dos (i’r rhai gyda systemau imiwnedd gwan iawn) yn yr un cyfnod.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig y pigiad atgyfnerthu i 90 y cant o'r rhai sy'n gymwys erbyn canol mis Rhagfyr. Hyd yma rydym wedi rhoi 22 y cant o'r holl frechlynnau atgyfnerthu yng Nghymru. Mae hyn yn unol â'n cyfran o'r boblogaeth gymwys.
Rydym yn gofyn yn garedig i bobl fod yn amyneddgar oherwydd cânt eu gwahodd yn awtomatig trwy lythyr pan ddaw eu tro. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'u meddygfa.
Cofiwch y gallwch ddod o hyd i atebion i ystod o Gwestiynau Cyffredin am y rhaglen frechu ar ein gwefan yma.
Pum ffordd syml y gallwch chi ein helpu ni i'ch helpu chi
Mae data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos hon yn dangos bod pobl heb eu brechu yn Lloegr 32 gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID-19 na’r rhai sydd wedi cael eu brechu’n llawn
Nid yw'n rhy hwyr i ddod i gael dos cyntaf o frechlyn COVID-19. Mae hefyd yn hanfodol bwysig bod y rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf yn cael eu hail, wyth wythnos yn ddiweddarach, er mwyn cael yr amddiffyniad gorau posib.
Dim ond trwy rif ffôn ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 y gellir trefnu dos cyntaf ac ail ddos: 03000 840004. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8yb i 7yh a dydd Sadwrn i ddydd Sul, 9yb i 2yp. Gall llinellau fod yn brysur iawn, felly byddwch yn amyneddgar.
O'r wythnos hon ymlaen, bydd pobl ifanc 12-15 oed yn gallu derbyn dos cyntaf trwy gerdded i mewn i unrhyw un o'r clinigau canlynol, hyd yn oed os oes ganddyn nhw apwyntiad eisoes wedi'i drefnu yn ystod yr wythnosau nesaf:
Wrecsam
Canolfan Catrin Finch – Dydd Sadwrn a Dydd Sul rhwng 09:00 a 17:00
Canolfan Hamdden Plas Madoc – Dydd Sadwrn y 6ed o Dachwedd yn unig rhwng 09:30 a 16:00
Queensferry
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy – Dydd Sadwrn a Dydd Sul rhwng 09:00 a 19:00
Llanelwy
Canolfan Optic – Dydd Sadwrn a Dydd Sul rhwng 08:30 a 19:30
Llandudno
Tŷ Sector – Dydd Sadwrn a Dydd Sul rhwng 08:30 a 19:30
Llangefni
Clwb Pêl-droed Llangefni – Dydd Llun yr 8fed a dydd Mawrth y 9fed o Dachwedd rhwng 16:00 a 19:25. Dydd Llun y 15fed a dydd Mawrth yr 16eg o Dachwedd rhwng 16:00 a 19:30
Tremadog
Ysbyty Alltwen – Dydd Llun y 15fed a Dydd Mawrth yr 16eg o Dachwedd rhwng 17:00 a 21:00
Caergybi
Ysbyty Penrhos Stanley – Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 Tachwedd o 08:30 hyd at 7.20pm, Dydd Sul 14 o 08:30 tan 7:20pm. Dydd Mercher 17 a Dydd Gwener 19 6pm – 8pm a Dydd Sadwrn 20 o 8:30am tan 7:30pm.
Bangor
Ffordd Ffriddoedd – Dydd Sadwrn 13 a 20 Tachwedd – o 08:30 tan 9:20pm
Amlwch
Canolfan Hamdden Amlwch – Dydd Sadwrn y 13eg o Dachwedd rhwng 10:00 a 16:45
Sylwch y bydd angen i riant neu warcheidwad fynd gyda phobl ifanc 12-15 oed.
Gallwch ddod o hyd i atebion i Gwestiynau Cyffredin am frechu pobl ifanc 12-15 oed ar ein gwefan.
Nid oes angen i gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi na'u hanwyliaid gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Mae gan ein timau nyrsio cymunedol a'n cydweithwyr gofal sylfaenol restrau clinigol sy'n cynnwys manylion y cleifion hyn a chysylltir â nhw pan ddaw eu tro.
Oherwydd yr adnoddau dan sylw, bydd yn cymryd mwy o amser inni roi pigiadau atgyfnerthu i gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi na'r rhai sy'n gallu teithio i Ganolfan Frechu COVID-19. Gall brechwr sy'n gweithio mewn Canolfan Frechu COVID-19 roi pigiad atgyfnerthu i oddeutu 100 o bobl y dydd, ond gall tîm o ddwy nyrs roi pigiadau i oddeutu deg o gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi yn yr un amser.
Dros yr wythnosau diwethaf mae ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 wedi bod yn profi nifer fawr o alwadau.
Ar hyn o bryd mae gennym oddeutu 40 llinell ar waith, gydag 17 aelod o staff yn gweithio ar unrhyw adeg. Os yw pob un o'r 40 llinell ffôn yn cael eu defnyddio, byddwch yn clywed y neges ganlynol:
‘Ymddiheuriadau - does neb ar gael ar hyn o bryd i gymryd eich galwad. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen.’
Os byddwch chi'n ffonio ac yn cael eich rhoi yn y ciw, fel rheol bydd yn cymryd tua 10 munud i ateb eich galwad. Mae hyn yn hirach nag yr hoffem ac rydym yn ceisio recriwtio staff ychwanegol trwy'r adeg. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Helpwch ni i'ch helpu chi trwy ddisgwyl a gwneud pob ymdrech i gadw at eich apwyntiad pigiad atgyfnerthu a dim ond ein ffonio i aildrefnu os na allwch osgoi gwneud hynny.
Rydym yn brechu cyn gynted ag y gallwn gyda'r adnoddau sydd gennym ac rydym yn edrych yn barhaus i recriwtio brechwyr a chynorthwywyr brechu ychwanegol.
Yn ogystal â'n rhaglen dreigl o hysbysebion recriwtio, byddwn yn cynnal digwyddiad recriwtio rhithwir arall ar yr 15 o Dachwedd. Bydd hyn yn cael cyhoeddusrwydd ar ein gwefan a'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol erbyn diwedd yr wythnos hon.