Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Gan Gill Harris – Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Rydym nawr wedi rhoi dros 1.1m o frechiadau COVID-19, ac mae ein timau yn gweithio’n ddiflino i gael y pigiad atgyfnerthu i freichiau ein dinasyddion mwyaf bregus.  

Rydym angen cymorth gan y cyhoedd i sicrhau y gallwn amddiffyn pobl mor sydyn ag sy’n bosibl.

Mae sawl ffordd y gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi:

Arhoswch am eich gwahoddiad am apwyntiad brechiad atgyfnerthu

Arhoswch am wahoddiad am apwyntiad yn y post a pheidiwch â chysylltu â’ch meddygfa MT na’ch Canolfan Cyswllt Brechiadau COVID-19, gan na fyddent yn gallu trefnu un ar eich cyfer ddim cynt.

Unwaith y byddwch yn derbyn apwyntiad, gwnewch bob ymdrech i’w gadw.

Peidiwch â chyrraedd yn gynnar

Peidiwch â chyrraedd ein safleoedd brechu yn gynt na phum munud cyn amser eich apwyntiad.  Ni fyddwn yn gallu cynnig brechiad i chi’n gynt, ac oherwydd bod lle yn gyfyngedig i giwio y tu mewn, byddwn yn gofyn i chi ddychwelyd i’ch car neu i aros y tu allan nes amser eich apwyntiad. 

Hefyd mae lle parcio yn gyfyngedig ar ein safleoedd brechu, ac mae angen i ni ei reoli’n ofalus.

Mae cyrraedd ar amser yn ein galluogi i reoli llif y bobl sy’n dod i mewn i’n canolfannau brechu mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID-19, tra’n gostwng yr angen i bobl giwio.  

Cefnogi anwyliaid i gael eu pigiad atgyfnerthu

Rydym yn deall ei fod yn angenrheidiol i bobl hŷn fynychu apwyntiad gyda phartner, ffrind neu anwyliad.  Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu rhoi’r pigiad atgyfnerthu i’r rhai sy’n dod gyda phobl i’w hapwyntiad.

Mae’n bwysig ein bod yn cadw at system apwyntiad llym er mwyn rheoli llif pobl drwy ein safleoedd brechu mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID-19 ac er mwyn osgoi'r angen i giwio - yn enwedig mewn tywydd gwael.

Trefnwch eich dos cyntaf neu ail ddos trwy gysylltu â’r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19

Nid yw’n rhy hwyr i ddod ymlaen i gael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19.  Hefyd mae’n hynod o bwysig fod y rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf yn derbyn eu hail ddos, wyth wythnos yn ddiweddarach, er mwyn derbyn yr amddiffyniad gorau.  

I’n helpu ni i reoli galw, noder nad ydym yn cynnig clinigau galw heibio mwyach, nac apwyntiadau ar lein ar gyfer dosys cyntaf neu ail ddos.

Gallwch ond trefnu dos cyntaf neu ail ddos trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19: 03000 840004.  Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm a dydd Sadwrn i ddydd Sul, 9am i 2pm.

Helpwch ni i gadw Gogledd Cymru’n fwy diogel y gaeaf hwn

Mae cyfraddau COVID-19 yn parhau i fod ar lefelau pryderus o uchel ac mae’r GIG yng Nghymru yn mynd i mewn i’w gyfnod mwyaf heriol o’r pandemig. Helpwch i gadw Gogledd Cymru yn ddiogel ac amddiffyn y GIG y gaeaf hwn trwy:

  • Gymryd y cynnig o bigiad y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y byddant yn cael eu cynnig i chi.  Nid oes angen gadael bwlch rhwng bob pigiad.  Mae’r modelu a rannwyd gyda’r Cyd-bwyllgor ar Frechiadau ac Imiwneiddiadau wedi awgrymu y gallai tymor y ffliw y gaef hwn fod yn 50 y cant i 100 y cant yn uwch na thymor arferol, felly mae’n hanfodol eich bod yn cymryd eich pigiad ffliw i amddiffyn eich hunan a’r rhai sy’n annwyl i chi. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan
  • Parhau i ddilyn cyngor iechyd cyhoeddus ynghylch ‘dwylo, wyneb, pellter ac awyr iach
  • Os ydych angen gofal GIG, dewiswch y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion chi trwy ymweld â gwefan GIG 111 neu wefan BIPBC.