Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Gan Ffion Johnstone – Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin

Mae ein hymgyrch frechu atgyfnerthu ar waith ac rydym wedi rhoi bron i 50,000 o frechiadau atgyfnerthu ar draws Gogledd Cymru eisoes.  Mae hyn yn rhan bwysig o wneud yn siŵr ein bod yn amddiffyn gymaint o bobl yn ein cymunedau â phosib wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, ac yn ei dro amddiffyn ein gwasanaethau GIG hanfodol.

Mynychu apwyntiadau

Mae ein canolfannau brechu yn brysur iawn ar hyn o bryd felly gofynnwn i bobl wneud yn siŵr eu bod yn mynychu eu hapwyntiad.  Os na allwch fynychu, yna gadewch i ni wybod fel y gallwn aildrefnu eich apwyntiad ar gyfer amser sy’n gyfleus i chi a hefyd sicrhau fod yr amser yn cael ei ddefnyddio i frechu rhywun arall.  Hefyd, a fyddech cystal â mynychu eich apwyntiad ar yr amser cywir, gan fod cyrraedd yn gynnar yn achosi ciwiau ac oedi.   

O ganlyniad i ni gael gymaint o apwyntiadau wedi’u trefnu ar hyn o bryd, mae ein Canolfan Gyswllt yn brysur iawn.  I helpu gyda’r galw rydym wedi ymestyn yr oriau agor fel y gall pobl gysylltu â’r Ganolfan ar 03000 840004 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm a dydd Sadwrn a dydd Sul, 9am i 1pm.

Brechu pobl ifanc 12 i 15 oed

Yr wythnos diwethaf dechreuon ni roi’r brechlyn COVID-19 i bobl ifanc iach 12-15 oed.  Mae gwahoddiadau i’r grŵp oedran hwn wedi mynd allan trwy lythyr yn eu gwahodd a’u rhiant/gwarcheidwad i’r ganolfan frechu.  Ni fydd pobl ifanc sy’n perthyn i’r grŵp oedran hwn yn gallu mynd i’n clinigau galw heibio.

Nid oes angen i unrhyw un yn y grŵp oedran hwn na’u rhieni/gwarcheidwaid gysylltu â ni i drefnu apwyntiad oherwydd byddant yn cael gwahoddiad trwy lythyr pan ddaw eu tro i gael brechiad.

Bydd angen i riant neu warcheidwad roi cydsyniad ar ran y person ifanc a dod gyda nhw pan fyddant yn derbyn eu brechiad.

Mae’n bwysig iawn i bobl ifanc a’u rhieni/gwarcheidwaid wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch brechu, ar sail gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefannau’r BBCPublic Health England, a British Society for Immunology.

I gael atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch brechu pobl ifanc 12-15 mlwydd oed, ewch i'n gwefan.

Disgwylir cyngor yn ddiweddarach gan y JCVI ynghylch cynnig ail ddos neu beidio i’r grŵp oedran hwn.

Brechiadau COVID-19 a’r Ffliw

Nid oes angen bwlch nag oedi rhwng cael brechiad COVID-19 a brechiad y Ffliw.  Yn debyg i’r rhan fwyaf o frechiadau, mae’n ddiogel ac effeithiol derbyn y ddau frechiad unrhyw bryd.  Os ydych â system imiwnedd gwan ofnadwy byddwch yn derbyn llythyr i’ch cynghori ar y camau y dylech eu cymryd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a brechiad y ffliw.

Cofiwch gael eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a brechiad y Ffliw cyn gynted â phosibl i gael yr amddiffyniad gorau'r gaeaf hwn.

Peidio gadael neb ar ôl

Wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, rydym am atgoffa pobl nad ydy hi’n rhy hwyr i ddod ymlaen i gael dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19.  Hefyd mae’n hynod o bwysig fod y rhai sydd wedi cael eu dos cyntaf yn derbyn eu hail ddos, wyth wythnos yn ddiweddarach, er mwyn derbyn yr amddiffyniad gorau.

Am fanylion ynghylch pwy sy’n gymwys i gael eu dos cyntaf, ail ddos a dos atgyfnerthu, a sut y gallent dderbyn eu pigiadau gweler ein hadran ar y brechlyn COVID-19 ar ein gwefan yma.