Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

15/09/21

Gan Gill Harris – Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Diweddariad - Rydym wedi adolygu'r ffordd y bydd pobl ifanc iach rhwng 12 a 15 yn cael eu gwahodd ar gyfer eu brechiad rhag COVID-19.

Dros yr wythnosau sydd i ddod, bydd rhieni neu warcheidwaid pobl ifanc iach rhwng 12 a 15 oed yn derbyn llythyr yn gwahodd eu plentyn i apwyntiad, a gaiff ei gynnal o 4 Hydref ymlaen.

Ni fydd yn bosibl trefnu apwyntiad gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar-lein. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd neu'ch meddygfa, gan y byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol gyda gwahoddiad i apwyntiad ar gyfer eich plentyn.

Mae gwybodaeth briodol yn cael ei choladu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd er mwyn galluogi pobl ifanc a'u rhieni i wneud dewis ar sail gwybodaeth am frechu. Caiff rhagor o fanylion eu rhannu'n fuan.


Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar frechu pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed ar ein gwefan am ragor o wybodaeth. 

Dos atgyfnerthu brechlyn COVID-19

Ddoe argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Frechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI) gynnig brechlyn atgyfnerthu i rai grwpiau oedran er mwyn gostwng achosion o COVID-19 ymhellach ac uchafu amddiffyniad ymysg y rhai sydd fwyaf bregus i haint difrifol, yn barod am fisoedd y gaeaf.  

Mae’r JCVI yn argymell y dylai’r unigolion canlynol gael cynnig trydydd dos o’r brechlyn atgyfnerthu COVID-19, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos:.  

 

  • Y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn
  • Pob oedolyn dros 50 oed
  • Gweithwyr rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol
  • Pawb rhwng 16 a 49 oed gyda chyflwr iechyd isorweddol sy’n eu rhoi mewn risg uwch o COVID-19 difrifol (fel yr amlinellir yn y Llyfr Gwyrdd), a gofalwyr oedolion.  
  • Oedolion sydd â chysylltiad ag unigolion â system imiwnedd gwan

 

Rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer y rhaglen atgyfnerthu COVID-19 ers cryn amser, a byddwn yn dechrau anfon gwahoddiadau i’r boblogaeth cymwys yn y dyddiau sydd i ddod.

Yn unol ag arweiniad JCVI, byddwn yn gwahodd y rhai sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn seiliedig ar yr un drefn flaenoriaeth â’r cam cyntaf, cyn belled â bod o leiaf chwe mis wedi pasio ers yr ail ddos.

Bydd y brechlyn Pfizer-BioNTech yn cael ei gynnig, waeth pa frechlyn y mae’r rhai sy’n gymwys wedi’i dderbyn eisoes.  

Bydd brechlynnau atgyfnerthu yn cael eu rhoi gan ddefnyddio cymysgedd o dimau gofal cychwynnol a chanolfannau brechu.  

Rydym yn gofyn i’r rhai sy’n gymwys i fod yn amyneddgar a chofio nad oes angen iddynt gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Bydd rhywun yn cysylltu â chi’n uniongyrchol pan ddaw eich tro chi.

Ni fydd yn drefn arferol i roi’r brechlynnau Ffliw ac atgyfnerthu COVID-19 yr un pryd, ond fe all fod nifer fechan o achosion lle bydd amseru ac ymarferoldeb yn caniatáu i ni wneud hyn.

Gan y bydd y rhan fwyaf o oedolion iau dim ond newydd dderbyn eu hail ddos o’r brechlyn COVID-19 yn hwyr yn yr haf, bydd y buddion o frechlyn atgyfnerthu yn y grŵp hwn yn cael ei ystyried yn hwyrach ymlaen, gan y JCVI, pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.  

 

Brechu pobl ifanc 12-15 oed

Yn dilyn argymhelliad y pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pobl ifanc 12-15 oed yn cael cynnig un dos o’r brechlyn COVID-19 Pfizer.

Mae’r brechlyn yn cael ei gynnig i’r grŵp oedran hwn ar y sail y bydd yn helpu i ostwng cyfraddau trosglwyddo ac felly gostwng amhariadau pellach i addysg a’r rhyddid sydd wedi’i adfer yn ddiweddar, yn ogystal â chynnig budd iechyd ymylol.

Byddwn yn cychwyn brechu pobl ifanc iach 12-15 oed o ddydd Llun 4 Hydref.  

O’r dyddiad hwn, gall y rhai 12-15 dderbyn eu brechiad trwy fynychu unrhyw un o’n safleoedd brechu, lle byddwn yn cynnal sesiynau ar ôl ysgol ac ar benwythnosau.  Gall rhieni neu warcheidwaid gyda chyfrifoldeb rhieniol drefnu apwyntiad am frechiad o flaen llaw trwy ein gwasanaeth trefnu apwyntiadau ar lein.

Bydd angen i riant neu warcheidwad roi cydsyniad ar ran y person ifanc a dod gyda nhw pan fyddant yn derbyn eu brechiad.  

Ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu brechu’r grŵp oedran hwn mewn clinigau o fewn ysgolion, ond fe wnawn ni barhau i adolygu hyn.

Mae gwybodaeth briodol yn cael ei gasglu ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi pobl ifanc a’u rhieni i wneud dewis gwybodus ynghylch y brechiad.  Bydd mwy o fanylion yn cael ei rannu’n fuan.  

Byddwn hefyd yn ysgrifennu at rieni/gwarcheidwaid plant 12-15 oed i amlinellu pryd a lle y gall eu plentyn gael eu brechu.

 

Mae brechlynnau yn achub bywydau

Mae'r ffigyrau a ryddhawyd yr wythnos hon gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos fod pobl sydd wedi’u brechu yn llawer llai tebygol o farw gyda COVID-19 na’r rhai sydd ddim wedi’u brechu.

Allan o fwy na 51,000 o farwolaethau COVID-19 yn Lloegr rhwng Ionawr a Gorffennaf 2021, dim ond 256 a ddigwyddodd ar ôl dau ddos o’r brechiad.  Ymysg y rhai a fu farw gyda COVID-19 ar ôl derbyn dau ddos, roedd 75 y cant yn hynod fregus yn glinigol.

Yma yng Nghymru, er gwaetha’r achosion uchel sy’n peri pryder, mae’r rhaglen frechu yn parhau i achub miloedd o fywydau.

Yn ystod 100 niwrnod cyntaf yr ail don o COVID-19, roedd 83,269 o achosion a 1,290 o farwolaethau.  Yn ystod 100 niwrnod cyntaf y don ddiweddaraf, mae 92,544 o achosion wedi bod a 185 o farwolaethau.

Er gwaethaf llwyddiant y rhaglen frechu, mae COVID-19 yn parhau i roi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau ac mae’n cyfrannu at storm berffaith o heriau ar gyfer y GIG yng Ngogledd Cymru.

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun, eich anwyliaid, y GIG, busnesau lleol a’r rhyddid sydd wedi’i adfer yn ddiweddar yn cymryd y brechiad a pharhau i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus o gwmpas ‘’dwylo, wyneb, pellter ac awyr iach