Pan fyddwch yn ffonio'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 (neu pan fyddwn ni'n eich ffonio chi), byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth sylfaenol i chi fel eich enw, dyddiad geni a'ch cyfeiriad, rhif ffôn ac enw eich meddyg teulu er mwyn ein helpu i ddod o hyd i'ch cofnod claf ar ein system.
I beth fyddwch chi'n defnyddio fy ngwybodaeth bersonol?
Mae arnom angen y wybodaeth hon i ddarparu'r wybodaeth gywir ar eich cyfer a hefyd i:
Caiff yr holl alwadau i'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ac oddi yno eu recordio. Caiff y recordiadau eu cadw'n ddiogel ar un o systemau'r Bwrdd Iechyd.
Mae gan staff y Bwrdd Iechyd ddyletswydd gyfreithiol a phroffesiynol i gadw gwybodaeth am gleifion yn gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i dogfennu a'i chofnodi ar ein systemau cyfrifiadurol diogel. Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i drydydd partïon heb eich caniatâd chi a byddai hynny at ddiben penodol ac mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft sefyllfa dyngedfennol neu lle bo'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei datgelu
Chi sy'n penderfynu faint o wybodaeth bersonol yr ydych yn awyddus i'w rhannu gyda ni. Gallwch gysylltu â ni'n ddienw, ond cofiwch y bydd angen gwybodaeth benodol er mwyn ein helpu i'ch cynghori ac i'ch helpu gyda'ch ymholiad.
Y Ddeddf Diogelu Data (2018), Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016, Y Ddeddf Hawliau Dynol (1998) a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000).
Er mwyn sicrhau bod ein staff yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru, mae treulio amser yn gwrando ar alwadau'n rhan hanfodol o hyfforddi a datblygu staff. Cysylltwch â ni os bydd gennych bryderon ynghylch hyn.
Gallwch ofyn i ni stopio cysylltu â chi am frechu (naill ai'n barhaol neu dros dro) trwy roi gwybod i ni dros e-bost - BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk neu drwy ffonio'r Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004.
A oes modd i mi gael mynediad at fy nghofnodion
Mae gennych hawl mynediad i ofyn am y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi. Mae rhagor o wybodaeth am gael mynediad at eich cofnodion personol a gwybodaeth i gleifion ar gael yn y rhestr isod: