Neidio i'r prif gynnwy

Therapyddion a staff cymorth therapyddion

Ble bynnag y gallwch helpu, mae eich angen yno

Fel gweithiwr gofal cymdeithasol ac iechyd profiadol a chymwysedig sydd wedi gadael y GIG dros dro neu'n barhaol, mae eich cydweithwyr a'ch cymuned leol angen eich cefnogaeth ar frys i ymuno yn y frwydr yn erbyn COVID-19 a hynny mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Mae gan COVID-19 y potensial i roi pwysau ychwanegol enfawr ar ein GIG ac ar ein cyd-ddinasyddion.  Mewn argyfyngau o'r fath, gall y CMC ganiatáu cofrestriad dros dro i rai grwpiau, a'r cyntaf yw Therapyddion cymwys a phrofiadol o statws da sydd wedi ildio'u cofrestriad neu drwydded i ymarfer yn ddiweddar.

Rydym yn gwerthfawrogi'r amser a'r ymdrech yr ydych wedi ei roi'n barod i'r GIG ac wedi rhoi popeth yn ei le i sicrhau bod ail-ymuno â ni mor hawdd a diogel a phosib i chi.  Gallwch ddewis faint o amser yr ydych yn ei gyfrannu ac rydych yn rhydd i roi'r gorau i weithio unrhyw bryd.  Bydd eich contract yn adlewyrchu telerau ac amodau safonol megis  amddiffyniadau oriau gwaith, trefniadau tâl, a hawl i wyliau blynyddol.

Nid yw hyn ynglŷn â thrin cleifion yn glinigol yn unig - mae angen darparu presenoldeb stoic sy'n tawelu meddwl sydd a'i effaith yn treiddio ymhellach nag unrhyw leoliad gofal cymdeithasol neu iechyd.  Mae nifer o aelodau o'r cyhoedd yn bryderus ac mae angen sicrwydd arnynt. Gall eich arbenigedd helpu mewn nifer o ffyrdd.

Mae amrywiaeth o swyddi therapi ar gael gan gynnwys swyddi cymorth therapi, gweithio gyda Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Dietetegwyr, Therapyddion Iaith a Lleferydd neu Podiatregwyr i barhau gofal cleifion. Bydd hyfforddiant a gwisg yn cael ei ddarparu.

Ewch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb. Yma gallwch ffiltro’r rolau yn ôl grŵp staff a lleoliad.
Ewch i:
https://www.covidhubwales.co.uk/
Ymholiadau cyffredinol: 01745 448 788 est 8329