Neidio i'r prif gynnwy

Feddygon Teulu ac Uwch Ymarferwyr Nyrsio

Mae'r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar draws Gogledd Cymru'n awyddus i recriwtio cynifer o Feddygon Teulu ac Uwch Ymarferwyr Nyrsio â phosibl oherwydd y disgwyliad am alw cynyddol oherwydd Covid-19.

Yn y cyfnod digynsail presennol, rydym am sicrhau bod ein gwasanaeth wedi'i staffio'n llawn a bod staff wedi'u hyfforddi'n briodol, cyn i ni weld y cynnydd disgwyliedig yn y galw.

Bydd cyfrannu ond y mymryn lleiaf o'ch mis at ddarpariaeth y Tu Allan i Oriau ar draws Gogledd Cymru yn cael effaith enfawr.  Mae gan y gwasanaeth gapasiti hefyd os bydd ymarferwyr am gamu i'r adwy yn llawn.

Rydym wedi rhoi Ymarferwyr mewn tri chategori:

Glas Yr Ymarferwyr hynny sy'n gallu cynnig ymgynghoriadau o'r cartref dros y ffôn a fideo - rydych naill ai wedi ymddeol o'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau/y Tu Mewn i Oriau neu rydych yn Ymarferydd presennol sy'n ynysu gartref, yn barhaol neu dros dro, yn ystod y cyfnod hwn.
GWYRDD Ymarferwyr sydd â rhywfaint o risg ond sy'n gallu gweld cleifion wyneb-yn-wyneb heb symptomau COVID-19 mewn hybiau GWYRDD a chynnig ymgynghoriadau dros y ffôn/fideo
COCH Yr Ymarferwyr hynny sy'n gweithio yn yr Hybiau COCH y tu mewn i oriau ac sy'n gallu darparu'r un gwasanaeth ar gyfer Y Tu Allan i Oriau, yn ogystal â chynnig ymgynghoriadau Hybiau Gwyrdd ac ymgynghoriadau dros y ffôn/fideo

Byddwch yn derbyn yr holl hyfforddiant sydd ei angen ac amser i ymgyfarwyddo â'r systemau TG. Pan fydd arnom angen staff ychwanegol, byddwn yn anfon neges destun neu e-bost atoch i weld p'un a ydych ar gael.

Ewch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb. Yma gallwch ffiltro’r rolau yn ôl grŵp staff a lleoliad.
Ewch i:
https://www.covidhubwales.co.uk/