Rydym wedi derbyn nifer fawr o gynigion caredig o gymorth a gwirfoddolwyr ond mae angen Nyrsys, Meddygon a Therapyddion cofrestredig i ymuno â'n tîm ar frys. O ganlyniad mae gennym swyddi llawn amser, dros dro, hyblyg a gweithwyr banc ar gael a gallwch ddechrau ar unwaith.
I gynyddu capasiti gwelyau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn agor tri ysbyty dros dro ar draws y rhanbarth yn; Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, Ysbyty Enfys Llandudno ac Ysbyty Enfys Bangor
Mae angen llenwi swyddi o fewn y tri ysbyty dros dro ac yn y 3 ysbyty llym sef Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ogystal â'n Gwasanaethau Cymuned.
Os oes gennych chi'r hyfforddiant a'r profiad yn y swyddi a restrir isod, ac yn teimlo fel y gallwch ymuno â thîm o staff ysbrydoledig, sy'n gweithio'n galed ac yn benderfynol i drechu'r firws, dilynwch y dolenni uchod am fwy o wybodaeth.
Ein nod yw gwneud eich cais mor syml â phosib fel y gallwch ddechrau gweithio mor fuan ag sy'n ymarferol.
Byddwn yn diweddaru'r tudalennau hyn gyda mwy o wybodaeth, felly cadwch lygaid arnynt. Hefyd, byddwn yn gwneud cyhoeddiadau drwy'r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch #BetsiNeedsYou