Neidio i'r prif gynnwy

Datganiadau Ansawdd Blynyddol

Yn dilyn cyflwyno dyletswydd ansawdd trwy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2000, mae’r ffordd yr ydym yn adrodd ar ansawdd bob blwyddyn wedi newid.

Yn y dyfodol, bydd gofyn i’r Bwrdd Iechyd, ynghyd â Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG eraill yng Nghymru gyhoeddi adroddiad ansawdd blynyddol ar y camau y mae wedi’u cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd i gyflawni ei swyddogaethau gyda’r bwriad o sicrhau gwelliannau o ran ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae’n rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad i ddangos i ba raddau y gellir cyflawni unrhyw ganlyniadau trwy’r camau hynny.

Dylai’r adroddiad ansawdd blynyddol gael ei baratoi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol. I symleiddio gofynion adrodd a lleihau dyblygu, awgrymwyd y dylai cyrff y GIG alinio’r adroddiad ansawdd blynyddol â’u proses ar  gyfer yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn dechrau cynllunio a pharatoi ar gyfer y ffordd newydd o adrodd, unwaith y byddwn wedi derbyn yr arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â’r fframwaith adrodd a’i union ofynion.

Gellir gweld Datganiadau Ansawdd Blynyddol Blaenorol y Bwrdd Iechyd drwy’r dolenni canlynol: 

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2023/24 gyda Atodiad A 

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2019/20

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2018/19

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2017/18

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2017/18 - Atodiad

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2016/17

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2015/16 

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2015/16 - Dogfen Technegol

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2014/15

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2014/15 - Dogfen Technegol

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2013/14

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2013/14 - Dogfen Technegol

Datganiad Ansawdd Blynyddol 2012/13