Roedd y Bwrdd Iechyd mewn Mesurau Arbennig am bum mlynedd tan fis Tachwedd 2020, pan gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod digon o welliannau wedi cael eu gwneud i gyfiawnhau dad-ddwysáu i statws Ymyriad wedi’i Dargedu (TI).Wrth i’r Bwrdd Iechyd fwrw ymlaen â’i agenda gwelliant wedi’i dargedu mewn ymateb i ymyriadau wedi’u targedu, bydd trawsnewid ac arloesi yn hanfodol er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r pum mlynedd diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Fframwaith Gwella Ymyriad wedi’i Dargedu i gefnogi cynnydd yn y 4 parth ffocws canlynol:
Gill Harris, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, yw Uwch Swyddog Cyfrifol y Bwrdd Iechyd dros Ymyriad wedi’i Dargedu. Mae trefniadau’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cyswllt Annibynnol ar gyfer pob maes fel a ganlyn:
Parth |
Uwch Swyddog Cyfrifol Aelod Annibynnol Cyswllt (a Chymorth Annibynnol Cyswllt) |
Arweinwyr is-barth |
Iechyd Meddwl (Oedolion a Phlant) |
Teresa Owen Cheryl Carlisle (Lucy Reid) |
Chris Stockport (Plant) |
Strategaeth, Cynllunio a Pherfformiad |
Chris Stockport Nicky Callow (Lyn Meadows) |
Sue Hill (Ystyriaethau cyllid) |
Arweinyddiaeth (gan gynnwys llywodraethu, trawsnewid a diwylliant) |
Sue Green Linda Tomos |
Simon Evans-Evans (Llywodraethu) |
Ymgysylltiad (cleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid) |
Helen Stevens-Jones Eifion Jones (Jackie Hughes) |
Sue Green (staff a’r cyhoedd) and Helen Stevens-Jones (partneriaid) |
Bydd fframwaith yr Ymyriad wedi’i Dargedu yn seiliedig ar fatrics aeddfedrwydd ar gyfer pob un o’r pedwar Parth a restrir uchod. Profwyd bod defnyddio matrics aeddfedrwydd yn ffordd effeithiol o gefnogi newidiadau arloesol a thrawsnewidiol, gan alluogi sefydliad i ganolbwyntio ar wella. Mae'r matrics aeddfedrwydd yn golygu y gellir tynnu sylw at themâu cyffredin ar hyd taith drawsnewid ac yn nodi'n gryno yr elfennau hanfodol ar gyfer llwyddiant, yn rhoi sicrwydd bod y ffocws ar y blaenoriaethau priodol ac yn amlygu'r meysydd y mae angen mwy o sylw arnynt.
Bydd y Bwrdd yn cynnal hunanasesiadau o’u cynnydd yn erbyn y matricsau yn rheolaidd. Mae Grŵp Llywio Fframwaith Gwella Ymyriadau wedi’u Targedu wedi cael ei sefydlu i oruchwylio’r daith tuag at welliant.
Papurau’r Grŵp Llywio’r Fframwaith Gwella Ymyriad wedi’i Dargedu (TIIF):
2022
2021
Matricsau Aeddfedrwydd ar gyfer Ymyriad wedi’i Dargedu
Dogfennau Ymyriad wedi’i Dargedu ychwanegol::
Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwaith Gwella Ymyriad wedi’i Dargedu:
Laura Jones, Swyddog Llywodraethu Corfforaethol: laura.jones12@wales.nhs.uk