Neidio i'r prif gynnwy

Gwella ansawdd, canlyniadau a phrofiad

Y Pedwerydd Amcan

Mae maes amcan 4 yn deillio o faes thematig mawr lle mae angen gwelliannau i wella perfformiad clinigol ar draws nifer o feysydd allweddol. Mae'r Bwrdd lechyd yn dymuno adeiladu ar y gwaith da a ddechreuwyd gan ddefnyddio'r dull llwybrau ar gyfer hyn.

Profiad cleifion a dinasyddion

Os caiff ei gasglu'n gadarn ac yn gyson, mae adborth Profiad Cleifion yn gyfle i nodi meysydd ymarfer da (ac y gellir eu hefelychu ar draws y Bwrdd Iechyd) yn ogystal â meysydd y mae angen eu gwella, yn agos at amser real. Mae hyn yn golygu y gall y Bwrdd Iechyd ddysgu o dueddiadau cyn iddynt arwain at niwed sylweddol, ond mae hefyd yn golygu y gall llais y claf ddylanwadu'n fwy ar ddatblygiad ein gwasanaethau. I grynhoi, byddai profiad a boddhad cleifion sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn gwella.

Atal

Mae atal a gostwng nifer yr achosion o afiechydon y gellir eu hosgoi yn feysydd blaenoriaeth allweddol a bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid ar draws rhanbarth Gogledd Cymru i oroesi’r heriau hyn a gwella iechyd a lles ein poblogaeth.

Gofal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar

Mae'r mwyafrif helaeth o gysylltiadau cleifion yn y GIG yn digwydd ym maes Gofal Sylfaenol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau gofal sylfaenol sefydlog, gwydn i sicrhau bod trigolion Gogledd Cymru yn cael gofal ar yr amser cywir ac yn y lle cywir, ac yn cael triniaeth feddygol pan fo angen yn unig

Gofal cymunedol a chlystyrau

Mae clwstwr yn grŵp o feddygon teulu sy'n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal eraill i gynllunio gwasanaethau lleol a'u darparu. Mae blaenoriaethau clwstwr yn cynnwys ystod o ymyriadau a nodir i wella canlyniadau iechyd cyhoeddus. Disgwylir i gefnogi darparwyr gofal sylfaenol i gyd-weithio o fewn eu clystyrau wella cynaliadwyedd a gwytnwch gofal sylfaenol.

Gwasanaethau fferyllol

Gwell canlyniadau i gleifion trwy ddarparu meddygaeth arloesol ac arbenigol yn gyflymach, gan gadw at dystiolaeth glinigol wrth wneud hynny, a sicrhau bod pob meddyginiaeth a roddir yn ychwanegu gwerth i'r claf sy'n ei derbyn.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod yr angen i wneud gwelliannau brys mewn perfformiad gweithredol, ond mae hefyd angen ffocws parhaus ochr yn ochr ag ailgynllunio gwasanaethau i roi mwy o bwyslais ar atal a gofal sylfaenol.

Gofal wedi'i gynllunio

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen gwella perfformiad gofal wedi'i gynllunio. Er bod cynnydd wedi'i wneud ar y rhai sydd â'r amseroedd aros hiraf, mae gormod o gleifion yn parhau i aros am gyfnodau hir am ymyriadau gofal wedi'i gynllunio. Mae angen i’r Bwrdd Iechyd hefyd newid y dull gweithredu mewn rhai meysydd o ofal wedi’i gynllunio er mwyn bod yn fwy parod ar gyfer y galw presennol a’r galw yn y dyfodol. Mae'r cynllun yn nodi ystod o weithgareddau a fydd yn arwain at gwtogi rhestrau aros cyffredinol a hyd arosiadau, gan ganolbwyntio'n benodol ar y cleifion sy'n aros hiraf. Bydd y gweithgareddau hyn yn arwain at well profiad i gleifion a llai o deithio diangen. Drwy'r rhain, bydd adnoddau'r Bwrdd Iechyd yn cael eu defnyddio'n well, gan sicrhau bod mwy o ofal yn cael ei ddarparu.

Bydd rhywfaint o'r gwaith hwn yn gofyn am ad-drefnu gwasanaethau i wella'r ffordd y darperir gofal yn effeithiol ac yn amserol. Bydd y Bwrdd Iechyd yn gwneud gwaith i nodi’r potensial ar gyfer gwahanol ffurfweddiadau gwasanaeth a’r effaith y byddent yn ei chael ar bobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor amrywiol, gan geisio darparu gofal mwy cydlynol gan arwain at lai o ymweliadau ag ysbytai.

Yn wahanol i sefydliadau eraill, nid oes gan y Bwrdd Iechyd safleoedd ‘llawdriniaethau oer’ penodedig ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn safleoedd lle gellir diogelu gweithgaredd llawfeddygol rhag effaith pwysau gofal argyfwng a brys. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn yn rhannol pan fydd y theatrau a'r wardiau ychwanegol yn Llandudno ar gael. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i archwilio potensial capasiti llawfeddygol a diagnosteg safle oer. Ochr yn ochr â hyn, bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i'r ffordd y caiff apwyntiadau a thriniaethau eu trefnu i wneud hyn yn fwy effeithlon ac yn fwy cyfleus a hygyrch i gleifion.

Mae angen i'r Bwrdd Iechyd newid y dull gweithredu mewn rhai meysydd gofal wedi’i gynllunio er mwyn bod yn fwy parod ar gyfer y galw presennol a’r galw yn y dyfodol.

Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng

Mae'n bwysig ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng yn y lle iawn pan fydd ei angen arnynt. Bydd gwella argaeledd a'r defnydd o wasanaethau priodol amgen i'r rhai sydd angen gofal mewn argyfwng, ond nad yw'n bygwth bywyd, yn arwain at brofiadau a chanlyniadau gwell i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Drwy leihau'r pwysau ar Adrannau Achosion Brys bydd hefyd yn arwain at wella profiadau a chanlyniadau'r rhai sydd angen y lefel uchaf o ofal a chymorth. Mae llawer o bobl yn dal i fynd i Adrannau Achosion Brys pan allent fod wedi cael eu trin mewn lleoliadau gofal iechyd eraill, megis uned mân anafiadau, gan wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau (gan gynnwys GIG 111 Cymru) neu mewn llawer o achosion gan wasanaethau gofal wedi'i gynllunio mewn lleoliadau llai brys. Mae cyfeirio, ochr yn ochr â sicrhau mynediad amserol digonol at wasanaethau gofal wedi'i gynllunio, yn parhau i fod yn bwysig o ran lleihau'r galw y gellir ei osgoi ar wasanaethau brys a gofal mewn argyfwng. Mae cynlluniau i wella Gwasanaethau Gofal Brys ar yr Un Diwrnod ac ehangu’r defnydd o wasanaethau fferylliaeth gymunedol fel dewis amgen i ofal brys, gwasanaethau meddygon teulu ac ysbytai ymhlith y camau sy’n cael eu cymryd i helpu i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt heb oedi y gellir ei osgoi.

Gofal canser

Yn ystod 2023-24 datblygodd y Bwrdd Iechyd fap trywydd gofal canser ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'r cynllun yn nodi ystod o gamau gweithredu i ddatblygu gwasanaeth mwy gwydn i bobl Gogledd Cymru, gan alluogi'r Bwrdd Iechyd i gynnal amseroedd aros rhwng cyfeirio a diagnosis. Bydd y gweithgareddau hefyd yn arwain at ddarparu mwy o ofal yng Ngogledd Cymru, gan arwain at gwtogi amser teithio i unigolion â chanser. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar amseroedd aros cymharol dda yn hanesyddol rhwng cyfeirio a chael diagnosis canser a gwella canlyniadau drwy fynd i’r afael â’r meysydd hynny o ofal canser sy’n parhau’n heriol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd ac mewn diagnosteg canser. Mae recriwtio a chadw staff arbenigol wedi peri anawsterau yn y blynyddoedd diwethaf, ond bu gwelliannau diweddar ac mae'n flaenoriaeth allweddol i ymgorffori hyn yn awr. 

Diagnosteg

Mae heriau perfformiad a chynaliadwyedd mewn nifer o feysydd diagnostig sy'n effeithio'n andwyol ar amseroedd aros a phrofiad cleifion. Mae'r rhain yn gofyn am ddull cymysg o fynd i'r afael â'r galw presennol ochr yn ochr â datrys materion cynaliadwyedd ar gyfer y tymor hwy. Bydd mynd i’r afael â’r blaenoriaethau yn y cynllun yn caniatáu i ni gydbwyso’r galw a’r capasiti ym maes diagnosteg yn well, a fydd yn ei dro yn arwain at gwtogi arosiadau gofal wedi’u cynllunio, a darparu diagnosis cyflymach.

Iechyd meddwl oedolion, anabledd dysgu, CAMHS a niwroddatblygiad

Bydd rhoi’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun ar waith yn arwain at ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl mwy cyson yng Ngogledd Cymru, a fydd yn cyd-fynd yn well ag arfer gorau a chanllawiau cenedlaethol. Bydd hyn yn gwella mynediad at wasanaethau a phrofiad y defnyddiwr.

Gwasanaethau sy'n cael eu herio ar hyn o bryd

Bydd mynd i'r afael â'r heriau y mae'r gwasanaethau hyn yn eu hwynebu yn arwain at wasanaethau mwy cyson a dibynadwy, a fydd yn gallu bodloni anghenion poblogaeth Gogledd Cymru yn well.

Gwasanaethau menywod

Mae’r Bwrdd Iechyd yn aros am ‘Gynllun Iechyd Menywod Cymru’ Cenedlaethol ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i drawsnewid gwasanaethau o ansawdd i fenywod a'u gwella. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Lleisiau Gynaecoleg, Mamolaeth a Newyddenedigol a Chydweithwyr Iechyd Cyhoeddus lleol i ddeall anghenion ein poblogaeth, i lywio a chydgynhyrchu cynlluniau datblygu gwasanaeth.

Plant

Nod y cynllun yw sicrhau bod gwasanaethau plant ar gael yn fwy cyson ac yn nes at y cartref, bod mwy o ddiogelwch plant yn deillio o wneud penderfyniadau o ansawdd uchel mewn achosion diogelu plant a chanlyniadau tymor hwy gwell trwy ganolbwyntio’n gyson ar 1000 diwrnod cyntaf bywyd.