Neidio i'r prif gynnwy

Creu diwylliant, arweinyddiaeth ac ymgysylltu tosturiol

Y Trydydd Amcan

Mae maes amcan 3 yn seiliedig ar y dystiolaeth gref sy'n dangos sut mae diwylliant, arweinyddiaeth ac ymgysylltu â phreswylwyr, staff, cymunedau a phartneriaid yn effeithio'n sylweddol ar ansawdd gwasanaethau a phrofiad y claf. Mae'r Bwrdd lechyd wedi nodi cyfleoedd i wneud gwelliannau yn y meysydd hyn a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell.

Arweinyddiaeth drugarog a datblygu sefydliado

Bydd gwelliannau mewn arweinyddiaeth drugarog a datblygu sefydliadol yn caniatáu gwella cyflymach ar draws y sefydliad, a mwy o foddhad gan staff, gan arwain at welliannau i brofiad a chanlyniadau cleifion.

Rhan allweddol o'r gwaith hwn fydd cymeradwyo a rhoi Fframwaith Datblygu Arweinyddiaeth y sefydliad ar waith. Bydd ffocws cryf ar arweinyddiaeth drugarog, sy'n cynnwys ffocws ar berthnasau trwy wrando'n ofalus ar y canlynol: dealltwriaeth, dangos empathi tuag at bobl eraill a'u cefnogi, gan eu galluogi i deimlo eu gwerth, eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn bwysig i eraill fel y gallant gyrraedd eu potensial a gwneud eu gwaith yn y modd gorau posibl. Ymagwedd ar sail tystiolaeth yw hon sy'n arwain at dimau cryf a gwydn. Yn bwysig, nid yw arweinyddiaeth drugarog yn nod ynddo ei hun; mae corff cadarn o dystiolaeth yn dangos bod diwylliant arweinyddiaeth drugarog yn creu canlyniadau gwell gan staff ar draws y sefydliad. Bydd ymgorffori'r diwylliant cywir ar draws y Bwrdd Iechyd yn hollbwysig i'w lwyddiant o ran cyflawni'r uchelgeisiau a amlinellir yn y cynllun tair blynedd. Bydd hyn yn golygu ymgysylltu â'r holl staff ar draws Gogledd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu cyfrannu at ei lwyddiant. Bydd gwaith i atgyfnerthu ymgysylltu ar draws yr holl grwpiau staff yn parhau ochr yn ochr ag ystod o weithgareddau datblygu sefydliadol er mwyn arwain at ddiwylliant cadarn a chynhwysol. Bydd hyn yn arwain at brofiad gwell i'n staff a'n cleifion

Mae cannoedd o arweinwyr o bob rhan o'r bwrdd iechyd eisioes wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau i ddatblygu a chefnogi arweinyddiaeth drugarog sy'n gadarn ac yn drugarog fel rhan o raglen datblygu sefydliadol ehangach. 

Ymgysylltu â dinasyddion

Mae ymgysylltu ystyrlon, perthnasoedd cryf, partneriaethau a chyfathrebu wrth wraidd adeiladu ymddiriedaeth a hyder yn ansawdd gofal a gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd. Maent yn gynhenid i daith gwella a datblygu gofal y Bwrdd Iechyd i fodloni anghenion y boblogaeth. Bydd casglu, dadansoddi a thriongli'r adborth gwerthfawr gan ddinasyddion a gweithio gyda nhw i sicrhau gwelliannau yn dangos eu bod yn hanfodol i ddatblygu gofal a gwasanaethau a'u gwella. Bydd y ffordd hon o weithio yn gwneud gwrando ac ymgysylltu yn greiddiol i ddull strategol y Bwrdd Iechyd.

Mae ffyrdd newydd a mwy targedig o ymgysylltu â chymunedau ar draws Gogledd Cymru yn cael eu datblygu i ganiatáu mwy o ymgysylltu parhaus rhwng y Bwrdd a'r boblogaeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle gwell i bobl ryngweithio â’r Bwrdd Iechyd ar faterion y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt a llywio penderfyniadau ynghylch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi llais mwy grymus i bobl. Bydd yr holl adborth hwn a gasglwyd drwy ryngweithio o ddydd i ddydd â chleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd, sgyrsiau â’r cyhoedd a phartneriaid yn eu cymunedau ac mewn digwyddiadau, gohebiaeth gan Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol a gweithgareddau eraill yn cael eu rhannu â’r Bwrdd yn rheolaidd mewn Adroddiadau Profiad Dinasyddion newydd.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn adeiladu rhaglen ymgysylltu eang ei chynnwys gyda chymunedau ar draws Gogledd Cymru, gan ddarparu cyfleoedd i ofyn cwestiynau a darganfod mwy am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bod yn bartner da

Mae gweithio mewn partneriaeth yn faes y mae'r Bwrdd Iechyd yn dymuno ei wella, gan nodi nas rhoddwyd blaenoriaeth i weithio mewn gwir bartneriaeth bob tro yn y gorffennol. Mae'r Bwrdd Iechyd am ddatblygu ein perthnasoedd newydd a'n rhai presennol a'u cynnal fel bod partneriaid yn cymryd rhan ac yn cynnig datrysiadau i'r materion cymhleth ac anodd a rennir. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau ystwyth.

Dim ond drwy ddull system gyfan y gellir mynd i’r afael â’r heriau cymhleth o ran anghenion iechyd a gofal y boblogaeth sy’n cael eu gweld nid yn unig yng Ngogledd Cymru, ond ar draws y DU gyfan. Mae hyn yn gofyn am berthnasoedd gwaith effeithiol ag Awdurdodau Lleol, sefydliadau Trydydd Sector ac Elusennol, Cymdeithasau Tai, Prifysgolion a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Byrddau Iechyd cyfagos a'r GIG yn Lloegr. At hynny, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod y datrysiadau i'r heriau hyn yn well o lawer o'u deall ar draws ein partneriaethau system.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio cyflawni mwy o integreiddio gwasanaethau, dulliau a rennir o wella lles y boblogaeth a ffyrdd arloesol a thrawsnewidiol o weithio sy'n mynd i'r afael â ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol llawer ehangach. Bydd gweithio yn y modd hwn yn galluogi dull o rannu gwerthoedd, gyda chymunedau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid ar draws rhanbarth Gogledd Cymru i oroesi'r heriau hyn a gwella iechyd a lles ein poblogaeth.