Ymunodd Russell â’r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid dros dro ym mis Gorffennaf 2023 ac mae wedi ymgymryd â'r rôl ar sail barhaol ers mis Ionawr 2025.
Mae Russell yn gyfrifydd cymwysedig ac yn aelod llawn o Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig, ac mae ganddo fwy na 25 mlynedd o brofiad yn sefydliadau’r GIG. Bu’n brif swyddog cyllid Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd y GIG Walsall am wyth mlynedd, ac wedi hynny, cafodd rolau uwch yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Gogledd Swydd Stafford ac Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd y GIG Sandwell.