Mae gan Dr Andole, a elwir yn Sree, gyfoeth o brofiad fel meddyg ymgynghorol ym maes strôc gyda sawl blwyddyn o arbenigedd mewn ymarfer clinigol ac arweinyddiaeth. Mae wedi ymgymryd â nifer o uwch swyddi, gan gynnwys gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yn Manx Care, Ysbytai Prifysgol Derby a Burton, ac Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Dwyrain Lloegr. Mae Dr Andole hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol at wella gofal iechyd mewn rolau fel Cyfarwyddwr Gwelliant a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer GIG Lloegr a Gwelliant y GIG.
Yn ogystal, mae Dr Andole wedi gwasanaethu fel Meddyg Gofal Eilaidd Anweithredol ar gyfer CCG Southend-on-Sea ac fel Athro Cyswllt mewn Meddygaeth Strôc. Mae'n arbenigwr cydnabyddedig, ar ôl gwasanaethu fel aelod o bwyllgor NICE, ac mae'n Uwch Gymrawd y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae ei gyfraniadau i ofal iechyd wedi cael eu cydnabod yn eang, gydag anrhydeddau fel y Wobr Rhagoriaeth Broffesiynol ym maes meddygaeth strôc (Gwobr y Gymdeithas Strôc) a Gwobr Arloeswr BME HSJ. Mae hefyd wedi bod yn feirniad yn y Gwobrau HSJ.
Mae Dr Andole yn angerddol iawn dros ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel ac mae'n parhau i gymryd rhan weithredol mewn addysgu ac arolygu fel Arolygydd y Comisiwn Ansawdd Gofal. Mae hefyd yn gwasanaethu fel cynghorydd i’r Ombwdsmon Seneddol a Llywodraeth Cymru.