Hyfforddodd Nick, sy’n hanu o ogledd Cymru yn wreiddiol, fel meddyg teulu, gan weithio yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor. Yn dilyn hyn, cwblhodd Nick y cynllun hyfforddi i feddygon teulu yng Ngogledd Clwyd, fel yr oedd bryd hynny, gan weithio mewn practisau ym Mae Penrhyn a Threffynnon cyn ymgymryd â rôl cymrawd clinigol yn Ysbyty HM Stanley. Mae gan Nick gryn brofiad mewn arweinyddiaeth feddygol ac addysg feddygol, ar ôl gweithio fel Cyfarwyddwr Meddygol hefyd yn Ynysoedd y Sianel ac mewn ysbytai llym yng Ngwlad yr Haf a Norfolk cyn dychwelyd i Gymru gyda Cwm Taf Morgannwg.