Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithredu Rhaglen Pabi (Cydnabod Cyn-filwyr), â’r bwriad i gydnabod cleifion sy’n aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog (gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn, Cyn-filwyr a’u teuluoedd). Nod y Rhaglen Pabi yw sicrhau bod staff yn gofyn i bob claf mewn ardaloedd derbyn ysbytai acíwt a ydynt wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EF ac yna bydd eu statws Lluoedd Arfog yn cael ei gofnodi ar system weinyddu’r claf. Ar gyfer y rhai sy’n cael eu derbyn i’r Ysbyty, bydd magned pabi maint cledr llaw yn cael ei gosod wrth eu gwely, gan ganiatáu i dimau nyrsio drafod cyfeiriadau priodol at wasanaethau cymorth cyn-filwyr allanol a sefydliadau elusennol cyn-filwyr, cyn iddynt gael eu rhyddhau.
Mae’r Rhaglen Pabi yn galluogi’r Bwrdd Iechyd i gael cipolwg pwysig ar gyfran y boblogaeth o gleifion sy’n ffurfio Cymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cael mynediad at ein gwasanaethau ac sydd angen cefnogaeth gan sefydliadau Trydydd Sector i gefnogi cyn-filwyr i ddychwelyd i’w cartrefi gan atal yr angen i ddychwelyd i’r Ysbyty am ymyriadau clinigol pellach.
Er mwyn cydnabod llwythi gwaith ein timau clinigol ymroddedig sydd eisoes wedi’u gorlwytho, mae’r Bwrdd Iechyd wedi meithrin partneriaeth â Chymdeithas Teuluoedd Milwyr, Morwyr ac Awyrenwyr (SSAFA), Elusen Swyddogol y Lluoedd Arfog, a fydd yn ymweld â chleifion yn yr Ysbyty i gefnogi cyfeiriadau at sefydliadau cymorth i gyn-filwyr yn y trydydd sector a all ddarparu grantiau, offer a chymorth gan gymheiriaid.
Mae’r Rhaglen Pabi ar waith ar draws wardiau cleifion mewnol Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac yng Nghwadrant Achosion Brys Ysbyty Gwynedd. Mae mwy o gyfleoedd i gyflwyno’r Rhaglen Pabi ar gael ar draws y Bwrdd Iechyd gan gynnwys y Gwasanaethau Therapi.
Drwy’r Rhaglen Pabi, adnabuwyd claf 100 mlwydd oed a oedd yn Gyn-filwr a oedd wedi cael ei dderbyn i Ysbyty Glan Clwyd, cyn ei drosglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Cymuned Treffynnon.
Dyma stori John
Rhannodd John, cyn-filwr 100 mlwydd oed o’r Llu Awyr Brenhinol (RAF), ei brofiad o ymuno â’r RAF ym 1943 a sut y hyfforddodd wedyn i fod yn Nyrs Iechyd Meddwl Seiciatrig (RMN). Mae John yn rhannu ei brofiad o gael ei dderbyn i’r Ysbyty ar ôl cael codwm gartref, a phwysigrwydd cael ei gydnabod fel cyn-filwr tra’n glaf mewnol.