Awyr Las ydy eich Elusen GIG leol. Mae Awyr Las yn helpu i sicrhau bod pobl ar draws Gogledd Cymru yn elwa o Wasanaethau GIG gwell pan fydd arnyn nhw eu hangen fwyaf.
Mae'ch cefnogaeth chi yn rhoi gwên ar wynebau ac yn helpu i ddarparu mannau gwell! Diolch i bobl arbennig fel chi, gall Awyr Las ddarparu gwasanaethau ac offer sy'n newid bywyd cleifion mewn ysbytai a chymunedau ar draws Gogledd Cymru. O bethau bach fel cadeiriau cyfforddus i gleifion yn yr Adran Achosion Brys ac i’r rheini sy’n cael dialysis, i dechnoleg o'r radd flaenaf ar gyfer unedau canser, strôc a gofal arbennig i fabanod - mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth.